RAF Sain Tathan yn nodi 80 mlynedd gyda pared rhyddid
Cerddodd aelodau RAF Sain Tathan drwy’r Barri i ddathlu 80 mlynedd ers ei sefydlu’n gyntaf a chanmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol.
Ar ddydd Sul 9 Medi, cyfarfu tua 350 o bersonél yr RAF yn Sgwâr Y Brenin yn y Barri cyn gorymdeithio ar hyd Heol Holltwn i Swyddfeydd Dinesig y Cyngor.
Mynychwyd y digwyddiad gan Faer Bro Morgannwg y Cyng. Leighton Rowlands, Arweinydd y Cyngor John Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor y Fro Rob Thomas ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns, y Arglwydd Lefftenant a’r Uwch Siryf.
Arweiniodd RAF Sain Tathan yr olaf o 5 parêd ar draws de Cymru.
Gorymdeithiodd Comander y Parêd, y Comander Steve Rowley, â Chleddyf Claymore prin yr RAF, yn un o dri yn unig y gŵyr amdano'n y DU.

Rhoddwyd y Cleddyf Rhyddid i Gyngor Bro Morgannwg ym 1974 pan gafodd RAF Sain Tathan Ryddid Anrhydeddus y fwrdeistref sirol. Cafodd y cleddyf ei baredio olaf yn 2013, ond hwn yw’r tro cyntaf i Gomander Gorsaf gludo'r cleddyf mewn Parêd Rhyddid.
Dywedodd Maer Cyngor Bro Morgannwg, Cyng. Leighton Rowlands: "Roedd yn anrhydedd mawr i ganiatáu i'r RAF Sain Tathan ymarfer eu rhyddid i farcio trwy strydoedd y Barri i ddathlu eu 100 mlynedd. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi teyrnged i aelodau'r RAF yn y gorffennol, presennol ac yn y dyfodol."

Mae arddangosfa RAF100 ar hyn o bryd yn cael ei harddangos yn Amgueddfa’r Bont-faen a’r Cyffiniau yn Neuadd y Dref y Bont-faen. Mae’r arddangosfa’n dathlu hyfforddiant peirianneg, storio awyrennau a rhagoriaeth peirianneg awyrennau gan yr RAF, yn ogystal â phobl leol a wasanaethodd yr RAF. Bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 20 Hydref.
