Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 24 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Cafodd VOGBLOG ei ddylunio a’i enwi gan ddisgyblion mewn gweithdy a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Dinesig ym mis Gorffennaf. Yn ystod y gweithdy cafodd ddisgyblion hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o ran ysgrifennu erthyglau newyddion gan dîm cyfathrebu’r Cyngor.
Y syniad y tu ôl i’r blog oedd rhoi platfform i ddisgyblion rannu straeon, digwyddiadau, acolâdau, cyflawniadau chwaraeon a mwy gyda’u hysgolion a’r gymuned ehangach. Bydd y blog hefyd yn caniatáu cydweithredu rhwng nifer o ysgolion yn y Fro.
Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gyda diddordeb yn y cyfryngau neu gyrfa mewn newyddiaduriaeth i wella eu sgiliau yn gynnar mewn bywyd ac adeiladu portffolio o’u gwaith.
Dros yr haf, mae swyddogion yn yr adran Addysg wedi bod yn gweithio i ddatblygu'r blog, gan ddiwallu dewisiadau dylunio disgyblion, yn barod ar gyfer lansio’r blog yn nhymor yr hydref.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwy’n credu ei fod yn syniad rhagorol i ddisgyblion allu ysgrifennu a rhannu erthyglau newyddion ar ran eu hysgol” “Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ysgolion yn cymryd rhan yn y VOGBLOG. Mae ysgrifennu a datblygu blog yn sgil allweddol i ddisgyblion ei ddatblygu a bydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd y tu hwnt i’w cyfnod yn yr ysgol.”
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwy’n credu ei fod yn syniad rhagorol i ddisgyblion allu ysgrifennu a rhannu erthyglau newyddion ar ran eu hysgol”
“Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ysgolion yn cymryd rhan yn y VOGBLOG. Mae ysgrifennu a datblygu blog yn sgil allweddol i ddisgyblion ei ddatblygu a bydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd y tu hwnt i’w cyfnod yn yr ysgol.”
Gellir gweld y VOGBLOG yn www.vogblog.wales ac rydym yn gobeithio drwy rannu’r platfform hwn y bydd mwy o ysgolion eisiau cymryd rhan.