Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 03 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Penarth
Bu gwaith tirlunio mawr a chafwyd swm o offer newydd wedi sicrhau arian ar gyfer y cynllun trwy gyfraniadau Adran 106 gan ddatblygiadau lleol.
Yn cynnwys ardal sy’n addas i fabanod, mae'r safle'n cynnwys ystod o offer ar gyfer plant hyd at 12 oed hefyd.
Bydd yr offer newydd yn cynnwys reid trac tebyg i weiren wib, uned dringo aml-ddefnydd ac amrywiaeth o ddarnau eraill.
Mae modd chwarae ystod o gampau megis pêl-droed a phêl fasged y tu mewn i’r ardal gemau aml-ddefnydd, sydd hefyd yn cynnwys llif oleuadau o fachlud haul tan 9pm, ar gael gyda botwm amseru.
Mae’r llwybr tua'r dwyrain o'r ardal chwarae wedi ei adnewyddu a'i symud oddi wrth ffens y ffin ac mae gwelliannau i'r llwybr ar ochr y dwyrain yn cynnwys gosod goleuadau lefel isel.
Mae’r gwaith wedi ei wneud fel rhan o gynllun gwella Mannau Agored Penarth a fydd hefyd yn gweld gwelliannau i The Dingle a Chae Chwarae Cogan, ac mae Plassey Square.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r project cyffrous hwn wedi trawsnewid ardal chwarae Paget Road Penarth yn amgylchedd modern a deniadol i blant o bob oedran a gallu. Mae hefyd yn rhan o raglen fuddsoddi barhaus mewn cyfleusterau tebyg trwy’r Fro. “Mae nifer o ardaloedd chwarae yn y sir eisoes wedi eu adnewyddu ac mae eraill ar fin cael gwaith tebyg yn y dyfodol agos. Gobeithiwn y gallwn gynnig amgylchedd modern, diogel a chyffrous i blant fwynhau.”
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r project cyffrous hwn wedi trawsnewid ardal chwarae Paget Road Penarth yn amgylchedd modern a deniadol i blant o bob oedran a gallu. Mae hefyd yn rhan o raglen fuddsoddi barhaus mewn cyfleusterau tebyg trwy’r Fro.
“Mae nifer o ardaloedd chwarae yn y sir eisoes wedi eu adnewyddu ac mae eraill ar fin cael gwaith tebyg yn y dyfodol agos. Gobeithiwn y gallwn gynnig amgylchedd modern, diogel a chyffrous i blant fwynhau.”