Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 25 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Cafodd adroddiad Cam 2 WelTAG ar wella Trafnidiaeth Strategol yn Ninas Powys ei gomisiynu gan y Cyngor yn 2017 ac mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad drafft wedi’i dderbyn ac yn cael ei adolygu ar hyn o bryd gan swyddogion. Bydd grŵp adolygu technegol yn ystyried yr adroddiad yn gyfrinachol ym mis Hydref, cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus sydd wedi gynllunio ar gyfer mis Tachwedd 2018.
Mae’r adroddiad drafft yn cynnwys opsiynau ar gyfer ffordd osgoi'r A4055 yn Ninas Powys yn ogystal ag opsiynau i wella cyfleoedd bws, rheilffordd, beicio a cherdded yn y pentref.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o dderbyn yr adroddiad drafft a’r achos busnes amlinellol ar gyfer Gwella Trafnidiaeth Strategol yn Ninas Powys. Bydd yr adroddiad drafft hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i bawb â diddordeb gael cyfle i ddweud eu dweud. “Mae’r astudiaeth yn rhoi cyfle gwych i’r gymuned a’r ardaloedd amgylchynol roi sylwadau ar y cynigion drafft ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn ogystal â’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus."
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o dderbyn yr adroddiad drafft a’r achos busnes amlinellol ar gyfer Gwella Trafnidiaeth Strategol yn Ninas Powys. Bydd yr adroddiad drafft hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn i bawb â diddordeb gael cyfle i ddweud eu dweud.
“Mae’r astudiaeth yn rhoi cyfle gwych i’r gymuned a’r ardaloedd amgylchynol roi sylwadau ar y cynigion drafft ar gyfer ffordd osgoi Dinas Powys yn ogystal â’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus."
Caiff rhagor o wybodaeth ar y broses ymgynghoriad cyhoeddus ei ryddhau gan y Cyngor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd yn cynnwys digwyddiadau sesiynau galw heibio lle gall pobl drafod yr adroddiad drafft gyda swyddogion yn ogystal â rhoi sylwadau ar gynigion yr adroddiad drafft.