Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Bydd Gwasanaethau Gwirfoddoli Bro Morgannwg yn cynnal Digwyddiad Gwirfoddoli Bychan yn Neuadd Leiaf y Bont-faen ddydd Iau 4 Hydref rhwng 11:00am ac 1:00pm.
Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddod i adnabod eich cymuned yn well, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Byddwch hefyd yn gwella'ch siawns o ddod o hyd i waith â thâl. Bydd modd i chi sgwrsio'n uniongyrchol â darparwyr gwirfoddoli lleol a dod o hyd i'r cyfle cywir i chi.
"Cefais fy nghyflwyno i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl mynd i’r Digwyddiad Gwirfoddoli Bychan. Mae wedi bod yn bleser gwirfoddoli ar gyfer yr elusen arbennig hon ers hynny. Mae’r amrywiaeth o amgylcheddau rydym wedi gweithio ynddynt wedi bod yn hamddenol a hwyl, ac maent wedi croesawu ac ystyried unrhyw awgrymiadau. Rwy’n falch iawn o fod wedi mynd i’r digwyddiad bychan hwn, sydd wedi fy ngalluogi i gyfrannu mewn ffordd fach iawn tuag at wasanaeth mor bwysig. Diolch.” - Rosemary Taplin
Os hoffech fynd i’r digwyddiad gwirfoddoli, galwch heibio ar y diwrnod a bydd croeso cynnes iawn i chi.
Bydd mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn 2018 yn Llanilltud Fawr a Phenarth.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â Gwasanaethau Gwirfoddoli Bro Morgannwg: