Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 24 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Aeth y grŵp i mewn i’r ardal brynhawn dydd Llun ac ers hynny maent wedi eu cynghori gan swyddogion y Cyngor bod eu meddiannaeth heb ei awdurdodi, yn anghyfreithlon ac na fydd yn cael ei dderbyn.
Mae’r heddlu wedi eu hysbysu ac mae tîm cyfreithiol y Cyngor wrthi’n ystyried ar hyn o bryd y camau priodol i’w cymryd er mwyn sicrhau y gellir eu taflu allan cyn gynted ag y bo modd.
Fodd bynnag, ceir proses gaeth sy’n rhaid glynu wrthi pan fo tir yn cael ei feddiannu gan grwpiau Sipsiwn a Theithwyr ac unwaith y bydd hyn wedi ei gwblhau bydd y teithwyr yn derbyn amser a dyddiad i adael y safle.
Yn y cyfamser, bydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu’r cyhoedd am y sefyllfa ac fe gaiff y maes parcio ei gau.
“Mae meddiannu tir y Cyngor yn y modd hwn yn gwbl annerbyniol. Ni chafodd yr ardal ei dylunio ar gyfer y diben hwn ac mae presenoldeb y grŵp yn atal preswylwyr eraill sy’n parchu’r gyfraith rhag ei defnyddio. Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifri ac yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gellir ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.” - Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
“Mae meddiannu tir y Cyngor yn y modd hwn yn gwbl annerbyniol. Ni chafodd yr ardal ei dylunio ar gyfer y diben hwn ac mae presenoldeb y grŵp yn atal preswylwyr eraill sy’n parchu’r gyfraith rhag ei defnyddio.
Rydym yn cymryd y mater hwn o ddifri ac yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gellir ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.” - Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg