Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 10 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Mae’r gwaith, fydd yn dechrau ar 20 Awst, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y nwy yn llifo i wresogi tai a rhoi pŵer i fusnesau yn yr ardal. Disgwylir i’r gwaith gymryd oddeutu 11 wythnos i gwblhau.
Er mwyn cadw’r traffig yn llifo yn ystod y gwaith, bydd goleuadau traffig deuffordd ar waith ar yr A48 rhwng School Lane a Duffryn Lane. Bydd y cwmni yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos i sicrhau cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl ar Dresimwn.
“Rydym yn gwybod nad yw gweithio ar ffyrdd fel hyn yn ddelfrydol, ond mae wirioneddol yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n cadw'r nwy yn llifo i gartrefi a busnesau yn yr ardal, ac i sicrhau bod y rhwydwaith nwy yn addas i'r dyfodol. Bydd gennym dîm o beirianwyr nwy ar y safle drwy gydol y project i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd diogel a chyflym, wrth sicrhau nad oes llawer o effaith. Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall ein gwaith gael ar gymunedau a chymudwyr ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Bro Morgannwg i gytuno ar y ffordd orau i wneud y gwaith hanfodol hwn gan achosi cyn lleied o anghyfleustra ag sy'n bosibl." - Francis Kirk, Wales & West Utilities
“Rydym yn gwybod nad yw gweithio ar ffyrdd fel hyn yn ddelfrydol, ond mae wirioneddol yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n cadw'r nwy yn llifo i gartrefi a busnesau yn yr ardal, ac i sicrhau bod y rhwydwaith nwy yn addas i'r dyfodol. Bydd gennym dîm o beirianwyr nwy ar y safle drwy gydol y project i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei gwblhau mewn modd diogel a chyflym, wrth sicrhau nad oes llawer o effaith.
Rydym yn ymwybodol iawn o’r effaith y gall ein gwaith gael ar gymunedau a chymudwyr ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda Chyngor Bro Morgannwg i gytuno ar y ffordd orau i wneud y gwaith hanfodol hwn gan achosi cyn lleied o anghyfleustra ag sy'n bosibl." - Francis Kirk, Wales & West Utilities
Mae Tîm Gwasanaeth Cwsmer Wales & West Utilities yn barod i siarad â chi os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith: