Cost of Living Support Icon

 

Aelodau gweithredu ieuenctid yn gosod biniau newydd i helpu cadw'r Barri’n daclus

Helpodd aelodau o grŵp Gweithredu Ieuenctid y Barri i osod biniau ysbwriel lliwgar yn dilyn pryderon bod ysbwriel yn difetha llwybrau i ysgolion ac yn gwanhau balchder yn eu tref.

 

  • Dydd Mercher, 24 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Pleidleisiodd y grŵp dros wneud problem ysbwriel yn un o’r tair blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn a ffurfiwyd grŵp gorchwyl.

 

Cychwynnont ymchwiliad trwy enwi’r llwybrau y mae disgyblion yn eu defnyddio ar y ffordd i’r ysgol a hefyd, edrychont yn agos ar safleoedd bws ysgolion. Awgrymodd canfyddiadau eu hymchwiliad fod digon o finiau mewn rhai ardaloedd ond ddim digon mewn eraill, ac roedd awydd gosod mwy.

 

O ganlyniad, cynigiodd Gweithredu Ieuenctid y Barri greu eco-gymunedau, i wneud biniau’n fwy deniadol ac i’w rhoi mewn llefydd mwy cyfleus.

 

Penderfynodd y grŵp ddylunio ei waith celf lliwgar ei hun i’w roi ar y ddau fin newydd, fel ffordd o dreialu’r biniau ychwanegol a dod ag ymwybyddiaeth am ‘sbwriela. Roedd y cynllun celf yn cynnwys y testun ‘ysbwriel’ arferol a thema’r Barri.

 

BYA members with one of the new litter bins

 

Gosodwyd y biniau ddydd Mawrth 16 Hydref ger Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Uwchradd Gatholig Richard Gwyn.

 

Mae dau fin arall wedi eu harchebu, ac fe’u rhoddir ger Ysgolion Uwchradd Whitmore a Pencoedtre, sef holl ysgolion uwchradd y Barri.

 

Diolchodd y tîm i Tony Spear, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Gweledol Cyngor y Fro a Thrafnidiaeth am ei gymorth.

 

Dywedodd Tony Spear: “Mae’n wych bod pobl ifanc yn ceisio gwella’r amgylchedd a gweithio â ni i wireddu hynny; dylai aelodau grŵp Gweithredu Ieuenctid y Barri gael pob clod am eu gwaith caled.”

 

Dywedodd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd grŵp Gweithredu Ieuenctid y Barri, Jules Trahearn O’Brien ac Eleri Borges: “Mae wedi cymryd amser hir i ni gwblhau ein hymgyrch ysbwriel ond mae’n werth chweil gweld y gwrandawyd ar lais pobl ifanc a bod y Cyngor wedi ein helpu.”