Disgyblion cynradd y Fro yn cymryd rhan ym menter Pontydd i Ysgolion ICE
Yn ddiweddar, cymerodd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Sant Nicholas ran mewn menter ‘ICE Bridges to Schools’.
Roedd aelodau staff yn Alun Griffiths (Contractors) Ltd, cwmni Peirianneg Sifil ac Adeiladu sydd wrthi’n cynnal y Prosiect Five Mile Lane, yn awyddus i ymgysylltu â’r gymuned.
Mae gwaith i adeiladu Lôn Pum Milltir newydd (A4226) bellach ar y gweill a disgwylir i’r ffordd gael ei chwblhau yn ystod haf 2019.
Dechreuodd gwaith paratoi, gan gynnwys gwaith clirio tir, yn gynnar yn 2018 a sefydlwyd y safle y caiff y cynllun ei reoli ohono yn fis Mawrth.
Cysylltwyd â disgyblion a staff yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas i gymryd rhan ym menter Pontydd i Ysgolion ICE.
Mae’r gweithgaredd yn cynnwys disgyblion blwyddyn 5 a blwyddyn 6 yn cydweithio i adeiladu replica bach o ail Bont Hafren.
Y nod yw rhoi cyfle difyr i blant ddysgu am yrfa mewn peirianneg.

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Geoff Cox, a’r Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, y Cynghorydd Jonathan Bird, helpu’r disgyblion i adeiladu’r bont.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio a chyn ddisgybl o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas, : “Mae’n wych gweld bod y tîm yn Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn cysylltu ag aelodau o’r gymuned wrth gyflawni’r gwaith datblygu economaidd gwych yma ar gyfer y Fro.
“Cafodd y disgyblion eu rhannu’n dimau i weithio ar naill ochr y bont, ac roedd eu brwdfrydedd dros adeiladu’r strwythur yn amlwg o’r dechrau.”
