Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 05 Mis Hydref 2018
Bro Morgannwg
Yn unol â Chynllun Corfforaethol y Cyngor, crëwyd y gronfa £670,000 i gynorthwyo cynlluniau arloesol a chynaliadwy trwy’r Fro.
Ymhlith y rhai a dderbyniodd arian trwy'r dull hwn mae Cyngor Cymuned Llandochau, a fydd yn derbyn
cwta £45,000 ar gyfer creu pentref gemau aml-ddefnydd newydd, a rhoddwyd arian hefyd tuag at greu cegin yn rhan o neuadd bentref newydd sbon Aberogwr.
Bydd Cymdeithas Neuadd Gymunedol Tregolwyn yn derbyn £14,000 o fuddsoddiad mewn ardal chwarae i blant ac aiff £2,000 tuag at broject gerddi cymunedol Cymdeithas Preswylwyr Tŷ Cadog.
Diben Cronfa Cymunedau Cryf yw rhoi’r gallu i grwpiau cymunedol, y trydydd sector a chynghorau cymuned i wneud ceisiadau am grantiau sy’n hyrwyddo mentrau ym Mro Morgannwg sy'n unol â gweledigaeth “cymunedau cryf a dyfodol disglair” y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac aelodau panel gwerthuso Cronfa Grant Cymunedau Cryf: “Rwyf i wrth fy modd y bu modd i ni gynorthwyo mwy fyth o brojectau gwerth chweil yn rownd ddiweddaraf y dyraniadau arian. “Sefydlwyd y gronfa i gynorthwyo mentrau a wnaiff wahaniaeth go iawn i gymunedau ym Mro Morgannwg ac rwy’n awyddus iawn i weld yr effaith a gaiff yr arian hwn ar y cynlluniau a fu’n llwyddiannus y tro hwn. “Mae’r grantiau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus gan y Cyngor i helpu mentrau ar lawr gwlad, ymrwymiad sydd eisoes wedi rhoi dros £400,000 ac mae arian eto i’w ddyrannu yn hwyrach eleni.”
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac aelodau panel gwerthuso Cronfa Grant Cymunedau Cryf: “Rwyf i wrth fy modd y bu modd i ni gynorthwyo mwy fyth o brojectau gwerth chweil yn rownd ddiweddaraf y dyraniadau arian.
“Sefydlwyd y gronfa i gynorthwyo mentrau a wnaiff wahaniaeth go iawn i gymunedau ym Mro Morgannwg ac rwy’n awyddus iawn i weld yr effaith a gaiff yr arian hwn ar y cynlluniau a fu’n llwyddiannus y tro hwn.
“Mae’r grantiau hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus gan y Cyngor i helpu mentrau ar lawr gwlad, ymrwymiad sydd eisoes wedi rhoi dros £400,000 ac mae arian eto i’w ddyrannu yn hwyrach eleni.”