Cyngor Bro Morgannwg yn bodloni safonau Tai Cymru yn dilyn buddsoddiad gwerth £92 miliwn
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi diweddaru ei stoc o dai i gyrraedd safon Ansawdd Tai Cymru ddwy flynedd o flaen yr amserlen yn dilyn buddsoddiad gwerth £92 miliwn.
Er 2012, bu i’r Cyngor gwblhau rhaglen i ddod â 3,800 at y safon a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i’w gyflawni erbyn 2020.

Mae’r gwaith wedi cynnwys:
• Gosod bron i 3,500 cegin newydd.
• gwella dros 3,000 ystafell ymolchi
• Gosod tua 1,000 o systemau gwres a boeleri
• Ailwifro dros 3,500 cartref
• Ailosod tua 1,400 to
• Inswleiddio wal allanol dros 550 o gartrefi
• Gwneud gwaith trwsio allanol yn cynnwys ail-uno brics, paentio a gwaith rendro mewn bron i 3,000 cartref.
Erbyn 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid i'r holl stoc dai gyrraedd lefelau penodol o safon mewn perthynas â strwythur a chyflwr, diogelwch, gwres ac effeithlonrwydd ynni, safon y gegin a’r ystafell ymolchi, rheoli eiddo, cynnal a chadw’r ardal leol ac addasiadau byw â chymorth.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau adeiladu: “Fel Cyngor, rydym yn ymrwymo i gynnig cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl y Fro y mae arnyn nhw angen cartrefi ond hefyd i sicrhau bod y llety hwnnw o safon uchel.
“Rydyn ni wedi ateb y gofyniad sydd arnom dan Safonau Ansawdd Tai Cymru ymhell cyn y dyddiad terfyn yn 2020 ac o ganlyniad, caiff y rhai y mae arnyn nhw angen tai cymdeithasol yn y Fro gwell safon byw.

“Rydyn ni hefyd wedi neilltuo swm sylweddol o arian er mwyn cynnal yr eiddo hwn dros y blynyddoedd a ddaw.
“Hoffwn i ddiolch i’r swyddogion sy’n gyfrifol am eu gwaith caled tuag at lwyddiant sylweddol i'r Cyngor. Hon fu’r rhaglen fuddsoddi fwyaf yn stoc dai’r Cyngor ers codi’r tai. Mae’r Cyngor yn falch o fuddsoddi mewn tai ar gyfer preswylwyr ac mae'r budd i’n tenantiaid a ddaw o hynny'n ehangach na chawl cartref modern y gallant ymfalchïo ynddo; mae hefyd yn datblygu cymdogaethau a chymunedau lle mae’r preswylwyr eisiau byw,”
Mae’r Cyngor nawr wedi cychwyn cam nesaf Safonau Ansawdd Tai Cymru, sef cynnal a gwella’r stoc dai.