Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 12 Mis Hydref 2018
Bro Morgannwg
Mae'r union fanylion eto i’w trefnu, ond mae cynlluniau’n cynnwys defnyddio’r adeilad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau sy’n cynnwys trigolion lleol.
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Gwnaeth y tendr a roddwyd ger bron gan GVS argraff ar y Cyngor ac nawr mae’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod y cynigion cyffrous hyn yn dwyn ffres. “Wrth i ni ystyried dyfodol y safle hwn, roeddwn yn clir yn fy marn y dylai'r adeilad barhau i gael ei ddefnyddio at ddibenion cymunedol at fudd trigolion a thref Llanilltud Fawr. “Rhannodd bid GVS yr uchelgeisiau hyn yn glir ac rwy'n sicr pan fydd y cynlluniau hyn wedi'u gweithredu, gallent roi hwb mawr i’r ardal leol.”
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Gwnaeth y tendr a roddwyd ger bron gan
GVS argraff ar y Cyngor ac nawr mae’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod y cynigion cyffrous hyn yn dwyn ffres.
“Wrth i ni ystyried dyfodol y safle hwn, roeddwn yn clir yn fy marn y dylai'r adeilad barhau i gael ei ddefnyddio at ddibenion cymunedol at fudd trigolion a thref Llanilltud Fawr.
“Rhannodd bid GVS yr uchelgeisiau hyn yn glir ac rwy'n sicr pan fydd y cynlluniau hyn wedi'u gweithredu, gallent
roi hwb mawr i’r ardal leol.”
Dywedodd Rachel Connor, Prif Weithredwr, Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg: “Mae GVS yn falch o fod yn negodi gyda Chyngor Bro Morgannwg i brynu'r brydles ar gyfer adeilad Canolfan Ieuenctid Llanilltud Fawr.
"Rydym yn gobeithio datblygu cyfleuster cymunedol bywiog a fydd yn dod yn uchafbwynt o weithgarwch, digidol a menter sy’n bodloni anghenion pob sector poblogaeth Llanilltud Fawr a gorllewin y Fro."