Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 15 Mis Hydref 2018
Bro Morgannwg
Mae'r arddangosfa o'r enw ‘Cyn Windrush – Morwyr Masnachol y Byd a’u Cymrodyr’ yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon, sydd wedi'i farcio'n flynyddol ledled y DU.
Nod y Mis Hanes Pobl Dduon yw hyrwyddo gwybodaeth am hanes du, diwylliannol a hanesyddol, yn ogystal â lledaenu gwybodaeth am gyfraniadau du cadarnhaol i gymdeithas Prydain.
Agorodd Aelod Cabinet y Fro y Cyng. Bob Penrose y digwyddiad gan ddweud: “Roedd yn bleser cael gwahoddiad i lansiad yr arddangosfa hon. "Mae straeon y morwyr masnachol sy’n byw yng Nghymru’n rhyfeddol a gobeithio y daw cynifer o bobl â phosibl i’r llyfrgell i ddysgu mwy am y darn hwn o hanes y Fro.”
Agorodd Aelod Cabinet y Fro y Cyng. Bob Penrose y digwyddiad gan ddweud: “Roedd yn bleser cael gwahoddiad i lansiad yr arddangosfa hon.
"Mae straeon y morwyr masnachol sy’n byw yng Nghymru’n rhyfeddol a gobeithio y daw cynifer o bobl â phosibl i’r llyfrgell i ddysgu mwy am y darn hwn o hanes y Fro.”
Dywedodd James Baker, curadur yr arddangosfa: “Yr hyn rwyf wedi ceisio’i ddangos rhywfaint o ffeithiau a gwybodaeth yn y llyfrgell hon, ond hefyd beth y gellid bod wedi’i wneud i’r dynion a fu farw. “Mae gennych deulu Somali, teulu Farrah a Steve Khaireh, sy’n berthynas i’r teulu, i’r dyn a gadeiriodd drafodaethau’r CU i ryddhau Nelson Mandela. “Ganed Abdulrahim Abby Farah yn Thompson St yn y Barri a chreodd ei dad y clwb ieuenctid lleiafrif du a gwyn cyntaf yng Nghymru sef ‘Clwb Ieuenctid Domino’ ym 1947. Os na chrëwyd y ‘Clwb Ieuenctid Domino’ byddai cynifer o blant o leiafrifoedd heb frechdan, diod, heb fod yn rhan o Garnifal y Barri. Dechreuwyd y cyfan o hyn gan deulu Farrah i bawb arall, a wnaeth wahaniaeth pwysig i hanes pobl dduon yng Nghymru.”
Dywedodd James Baker, curadur yr arddangosfa: “Yr hyn rwyf wedi ceisio’i ddangos rhywfaint o ffeithiau a gwybodaeth yn y llyfrgell hon, ond hefyd beth y gellid bod wedi’i wneud i’r dynion a fu farw.
“Mae gennych deulu Somali, teulu Farrah a Steve Khaireh, sy’n berthynas i’r teulu, i’r dyn a gadeiriodd drafodaethau’r CU i ryddhau Nelson Mandela.
“Ganed Abdulrahim Abby Farah yn Thompson St yn y Barri a chreodd ei dad y clwb ieuenctid lleiafrif du a gwyn cyntaf yng Nghymru sef ‘Clwb Ieuenctid Domino’ ym 1947. Os na chrëwyd y ‘Clwb Ieuenctid Domino’ byddai cynifer o blant o leiafrifoedd heb frechdan, diod, heb fod yn rhan o Garnifal y Barri. Dechreuwyd y cyfan o hyn gan deulu Farrah i bawb arall, a wnaeth wahaniaeth pwysig i hanes pobl dduon yng Nghymru.”
Crëwyd cyfres o lechi domino ar Pont Droed Thompson Street y Barri gyda phortreadau o gyn-aelodau’r Clwb Domino.
Mae cerdd am Thompson Street a luniwyd gan un o aelodau’r Clwb Domino yn llythyr a dorrwyd yn y domino cyntaf.
Bydd yr arddangosfa yno tan ddydd Sadwrn 27 Hydref.