Cost of Living Support Icon

 

Cyhoeddi Cynllun Blynyddol y Cyngor 

Mae'r Cynllun Cynnydd Rhan 2 yn adrodd ar berfformiad y Cyngor dros y flwyddyn flaenorol, trwy ddefnyddio ystod o ddata cenedlaethol a lleol.

  • Dydd Mawrth, 30 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Mae'r Cynllun Gwella (Rhan 2) yn adrodd ein cynnydd wrth gyflawni'r amcanion gwella a osodwyd gennym ni yn y flwyddyn flaenorol yn ein cynllun sy'n edrych ymlaen.


Dyma rai o'r cyflawniadau allweddol a amlinellwyd yn adroddiad eleni:

  • Y Fro yw'r awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru am ymweliadau â chyfleusterau chwaraeon a hamdden;

  • wedi ennill 7 Gwobr Baner Werdd unwaith eto a chynyddodd nifer y Gwobrau Cymunedol o 5 i 8;

  • derbyniodd 100% o holl denantiaid y Cyngor gefnogaeth cyngor ariannol, gan gyfrannu at atal digartrefedd;

  • enilloddy Peilot 'Eich Dewis' wobr genedlaethol, mae'r cynllun  wedi rhoi'r rhyddid i ddefnyddwyr gwasanaeth ddiffinio eu hanghenion a'u canlyniadau gofal; a

  • mae canran y bobl ifanc (16 oed) nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) wedi gostwng i 0.95%, y trydydd gorau yng Nghymru.

 

Am ragor o wybodaeth darllenwch grynodeb yr adroddiad neu'r adroddiad llawn.

 

Bydd copïau caled o’r cynllun a’r crynodeb hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd ac wrth dderbynfeydd cynghorau.