Y Cyngor yn helpu masnachwyr canol tref Y Barri i archwilio posibilrwydd Ardal Gwella Busnes
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu masnachwyr yn Y Barri i archwilio posibilrwydd gwneud canol y dref yn Ardal Gwella Busnes (BID).
Cynhaliwyd trafodaethau i’r cyfleodd a’r peryglon y byddai trefniant o ‘r fath yn eu creu yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl i fusnesau lleol benderfynu i edrych a r cynnig yn fwy manwl.
Wedyn gwnaeth y Cyngor cais i Lywodraeth Cymru i gael cyllid, y mae’n ei gydweddu, i ymgymryd adroddiad allanol i ddadansoddi sy'n wynebu canol y dref ac argymhell a yw BID yn briodol.
Bydd yr astudiaeth yn archwilio a allai BID helpu i fynd i’r afael â materion sy’n wynebu canolfannau siopa Heol Holltwn a’r Heol Fawr a hefyd i adnabod ffyrdd o daro yn erbyn siopau gwag a gwella hyfywedd y lleoliad.
Eir i’r afael ag ef gan y Mosaic Partnership, sy’n dîm ymgynghori amrywiol sydd wedi datblygu atebion ymarferol i wella ac adfywio canol trefi yn y DU ac o gwmpas y byd.
Mae'r grŵp wedi creu proses tri cham llwyddiannus i arwain lleoliadau trwy ddichonolrwydd, datblygu BID ac adeiladu ymgyrch.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig cefnogaeth arall i fusnesau canol trefi, gan gynnwys Rhaglen Grantiau Masnachol.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio:
“Ym mis Ionawr cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg gyfarfod i fasnachwyr Y Barri i glywed am fuddion a pheryglon sefydlu Ardal Gwella Busnes. Bu cyfle i ddysgu am sut mae BIDs wedi gweithio mewn rhannau eraill o’r DU a’r buddion a godwyd ar gyfer y busnesau lleol.
“Yn dilyn y cyfarfod hynny, penderfynodd y masnachwyr archwilio y posibilrwydd ac felly rydym wedi helpu i gomisiynu’r astudiaeth hwn.
“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau canol trefi. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gamau rydym wedi’u cymryd i hyrwyddo'r ardaloedd hyn, gyda digwyddiadau ac adnewyddiadau i flaenau siopau a strydoedd ymhlith y rhai eraill."
Hefyd bydd y Cyngor yn gwahodd busnesau a pherchnogion eiddo lleol i uwchgynhadledd canol y dref fis Tachwedd i helpu i nodi ffyrdd eraill o wella’r ardal.