Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 10 Mis Hydref 2018
Bro Morgannwg
Ar ddydd Llun 8 Hydref, cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, y Cyng. Bob Penrose a Maer y Fro Cyng. Leighton Rowlands, dystysgrifau i ddisgyblion, i nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Llyfrgelloedd.
Mwynhaodd disgyblion ysgolion cynradd y Fro’n digwyddiad, a gynhaliwyd yn llyfrgell y Barri, a ddechreuodd â sioe hud gan difyrrwr plant.
Mae digwyddiad eleni’n canolbwyntio ar les, a bydd llyfrgelloedd yn arddangos sut maen nhw’n dod â chymunedau ynghyd, i fynd i’r afael ag unigrwydd, rhoi man darllen a chreadigol a chefnogi pobl ag iechyd meddwl.
Cynhelir Her Ddarllen yr Haf bob blwyddyn yn ystod y gwyliau haf.
Mae’r sialens yn cynnwys darllen chwe llyfr llyfrgell o’ch dewis i gwblhau’r her, ac mae gwobrau arbennig i’w casglu ar hyd y ffordd.
Mae Wythnos y Llyfregelloedd yn digwydd o 8-13 Hydref, ac yn dathlu llyfrgelloedd ar draws y DU.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant y Cyng. Bob Penrose: “Roedd yn braf clywed bod 200 o blant wedi cwblhau a mwynhau Her Ddarllen Yr Haf eleni. "Mae’n hanfodol i blant ddeall pwysigrwydd darllen o oedran cynnar. Mae heriau darllen yn ffordd wych o roi’r pŵer i blant greu eu rhestrau darllen eu hunain dros wyliau’r haf.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant y Cyng. Bob Penrose: “Roedd yn braf clywed bod 200 o blant wedi cwblhau a mwynhau Her Ddarllen Yr Haf eleni.
"Mae’n hanfodol i blant ddeall pwysigrwydd darllen o oedran cynnar. Mae heriau darllen yn ffordd wych o roi’r pŵer i blant greu eu rhestrau darllen eu hunain dros wyliau’r haf.”