Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 09 Mis Tachwedd 2018
Bro Morgannwg
Mae’r sgamwyr hyn yn dweud wrth bobl fod ganddynt broblem llygod mawr yn eu cartref ac yn gofyn am arian gan y preswylwyr i ddatrys y broblem – problem nad sy’n bodoli.
Mae hon yn adeg prysur iawn o’r flwyddyn i fasnachwyr twyllodrus a sgamwyr.
Efallai y bydd rhywun yn dweud wrthoch fod angen gwneud gwaith ar eich cartref neu eich gardd, neu gallai’r galwr esgus bod o’r cyngor neu gorff swyddogol arall.
Dwedwch wrth deulu a ffrindiau i wrthod pobl sy’n galw yn y tŷ ac i roi’r ffôn i lawr os ydynt yn teimlo dan bwysau mewn unrhyw ffordd.
Byddwch yn wyliadwrus wrth ateb y drws neu’r ffôn.
Peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol iddynt e.e. manylion banc, cyfrinair neu rif PIN.
Peidiwch ateb, lawrlwytho atodiadau na chlicio ar ddolenni amheus mewn e-byst.
Os ydych yn pryderu, peidiwch a gadael dieithriaid i’r tŷ.
Daw rhywbeth o unman neu gan rywun nad ydych yn eu hadnabod
Yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir e.e. Eich bod wedi ennill y loteri
Gofynnir i chi dalu am rywbeth ymlaen llaw – yn enwedig trwy drosglwyddiad banc
Gofynnir am wybodaeth bersonol – fel eich manylion banc, cyfrineiriau cyfrifiaduron neu rifau PIN
Cewch eich rhoi dan bwysau i brynu rhywbeth neu i ddod i benderfyniad sydyn – bydd cwmni o’r iawn ryw yn hapus i aros
Os gofynnir i chi ffonio rhif ffôn drud – mae’r rhain yn dechrau gyda 070, 084, 087, 090, 091, 098
Gallwch chi roi gwybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu SHeddlu De Cymru ar 101.