Y Fro yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2018
Bydd y Fro yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2018 (DHG) ar ddydd Gwener 30 Tachwedd, gyda sesiynau galw heibio a gwybodaeth ar gael i ofalwyr ledled y sir.

Mae’r Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n dod â sefydliadau ledled y DU ynghyd, sy’n helpu gofalwyr yn eu cymuned leol i wybod eu hawliau a dysgu sut i gael y cymorth y mae ganddynt hawl ei gael.
Mae tua 370,000 o ofalwyr ledled Cymru sydd, heb dâl, yn helpu rhywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael.
Ar 1 Tachwedd eleni, Canolfan Iechyd y Bont-faen oedd y feddygfa gyntaf i feddygon teulu yn y Fro i dderbyn Achrediad Gofalwyr Meddygon Arian.

Renae Crockford yw’r Hyrwyddwr Gofalwyr yng Nghanolfan Iechyd Y Bont-faen, fel rhan o Bractis Teuluoedd Gorllewin y Fro.
Dywedodd Renae: “Rwyf wedi bod yn Hyrwyddwr Gofalwyr am ddwy flynedd ac rwy’n rhan o’r tîm nyrsio. Rwy’n frwd am helpu pobl cymaint ag y gallwn. Mae llawer o’r gwaith rwy’n ei wneud yn cynnwys cyfeirio cymdeithasol o ran yr help a gynigiwn, oherwydd bod pobl yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw le i fynd.
“Mae gennym lawer o gymorth ar gael yn y Fro ac roedd fy swydd yn cynnwys cysylltu cleifion a’u gofalwyr gyda’r gwasanaethau hyn.
“Roeddem eisoes wedi derbyn achrediad lefel efydd, ond pan wnes i gymryd y rôl Hyrwyddwr Gofalwyr, roedd yn glir ein bod yn gwneud digon i gael achrediad lefel arian. Fe wnaethon ni ddathlu Wythnos Gofalwyr ym Mehefin eleni, ac roedd nifer o bobl yn yr ystafell aros yn aros am wybodaeth a chymorth, ac i ddysgu mwy, roedd e’n llwyddiannus iawn.”
Mae’r Fro yn bwriadu nodi DHG drwy gynnig cymorth o stondinau wybodaeth, a sessiynau galw heibio, yn yr archfarchnadoedd canlynol:
-
Asda, Ffordd y Mileniwm, Y Barri, rhwng 10am-4pm
-
Morrisons, Heol Ceiniog, Y Barri, rhwng 10am-4pm
-
Waitrose, Heol Palmerston, Y Barri, rhwng 10am-12pm
Mae gofalwyr yn gallu derbyn gwybodaeth, help a chymorth neu ofyn unrhyw gwestiynau.
Gallwch darllen mwy ar Hawliau Gofalwyr, gwybodaeth a hyfforddiant ar lein