Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 05 Mis Tachwedd 2018
Bro Morgannwg
Ymunodd y Cynghorydd Rowlands, y Cynghorydd David Dodds, Maer Cyngor Bwrdeistref Basildon ac Alun Cairns AS â channoedd o redwyr, oedd yn cynnwys cynrychiolaeth dda o Billericay yn y Parkrun Gavin and Stacey gyntaf.
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands: “Mae mentrau fel y Parkrun yn gwneud ymarfer corff yn rhywbeth i’w fwynhau, ac yn ffordd bwysig iawn o helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae’r digwyddiad ar Ynys y Barri yn benodol yn enghraifft wych o’r ffordd y mae gwirfoddoli yn gallu gwella cymunedau lleol mewn ffordd bwerus. “Rhaid rhoi canmoliaeth fawr i drefnwyr y digwyddiadau ar Ynys y Barri ac yn Billericay y penwythnos hwn. Nid yn unig y mae wedi denu hyd yn oed mwy o redwyr allan ar fore Sadwrn, mae unwaith eto wedi tynnu sylw pobl o bob rhan o’r wlad at ganolfan gwyliau Ynys y Barri sydd o’r radd flaenaf. “Hoffwn hefyd ddiolch i staff y Cyngor a Parkrun UK a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.”
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands:
“Mae mentrau fel y Parkrun yn gwneud ymarfer corff yn rhywbeth i’w fwynhau, ac yn ffordd bwysig iawn o helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae’r digwyddiad ar Ynys y Barri yn benodol yn enghraifft wych o’r ffordd y mae gwirfoddoli yn gallu gwella cymunedau lleol mewn ffordd bwerus.
“Rhaid rhoi canmoliaeth fawr i drefnwyr y digwyddiadau ar Ynys y Barri ac yn Billericay y penwythnos hwn. Nid yn unig y mae wedi denu hyd yn oed mwy o redwyr allan ar fore Sadwrn, mae unwaith eto wedi tynnu sylw pobl o bob rhan o’r wlad at ganolfan gwyliau Ynys y Barri sydd o’r radd flaenaf.
“Hoffwn hefyd ddiolch i staff y Cyngor a Parkrun UK a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.”
Fel rhan o’i ddyletswyddau dinesig y Cynghorydd Rowlands sy’n goruchwylio Cronfa Gymhorthdal Sefydledig y Maer. Bydd Cronfa Grant Sefydliad y Maer yn cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw ar gyfer costau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n cefnogi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cymunedau cryf â dyfodol disglair.
Cronfa Grant Sefydliad y Maer