Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 02 Mis Tachwedd 2018
Bro Morgannwg
Mae cyfanswm o 1149 Pabi wedi cael eu gwau i mewn i dri llen ar wahân, ac mae pob un yn cynrychioli dynion y Barri a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd aelodau Sefydliad y Merched y Barri, a greodd y llenni yn y grŵp Gwau a Chlonc lleol, yn y lansiad swyddogol ar ddydd Mercher 24 Hydref.
Agorwyd y digwyddiad gan Faer y Fro, y Cyng Leighton Rowlands, a wahoddodd y Lleng Prydeinig i ddechrau gwerthu’r pabïau, ynghyd â Maer Tref y Barri, y Cyng Janice Charles ac AC y Fro, Jane Hutt.
Dywedodd y Cyng Rowlands: "Rydym yma oherwydd bod merched Sefydliad y Merched y Barri wedi creu llenni pabi coffa drwy wau pabïau er mwyn anrhydeddu pob dyn o'r Barri a roddodd eu bywydau ym mrwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. "Gydag arweiniad oddi wrth Dr Jonathan Hicks ein hanesydd rhyfel lleol o fri a'i lyfr diweddar, maent wedi gwau 1149 pabi. "Gofynnodd Sefydliad y Merched i'r Lleng Brydeinig Frenhinol am help i ddod o hyd i leoliad addas i arddangos y llenni yn ystod apêl y pabi. Gwnaeth Teresa o'r Lleng Brydeinig bleidlais ar-lein gyflym a Llyfrgell y Barri oedd y lleoliad mwyaf poblogaidd."
Dywedodd y Cyng Rowlands: "Rydym yma oherwydd bod merched Sefydliad y Merched y Barri wedi creu llenni pabi coffa drwy wau pabïau er mwyn anrhydeddu pob dyn o'r Barri a roddodd eu bywydau ym mrwydrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
"Gydag arweiniad oddi wrth Dr Jonathan Hicks ein hanesydd rhyfel lleol o fri a'i lyfr diweddar, maent wedi gwau 1149 pabi.
"Gofynnodd Sefydliad y Merched i'r Lleng Brydeinig Frenhinol am help i ddod o hyd i leoliad addas i arddangos y llenni yn ystod apêl y pabi. Gwnaeth Teresa o'r Lleng Brydeinig bleidlais ar-lein gyflym a Llyfrgell y Barri oedd y lleoliad mwyaf poblogaidd."