Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 30 Mis Tachwedd 2018
Bro Morgannwg
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi awdurdod i swyddogion cynllunio i gyflwyno Hysbysiad Tor-amod Gorfodi a Hysbysiad Atal i ddatblygwyr Glannau’r Barri.
Cymerwyd y camau yn dilyn oedi parhaus ar adeiladu canolfan ardal o siopau a bwytai y disgwylid iddi fod wedi ei chwblhau erbyn Medi 2017.
Roedd hysbysiad atal dros dro 28 diwrnod eisoes wedi ei gyflwyno i’r consortiwm o ddatblygwyr cyn y cyfarfod i atal gwerthu unrhyw dai newydd ond bellach gellir cymryd camau parhaol mwy llym. Dywedodd y Cyng.
Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Nid yw’n dderbyniol i ddatblygwyr ddangos y fath ddiffyg sylw i’w hymrwymiadau. Mae Glannau’r Barri bellach yn gymuned ffyniannus ac rydym am weld y gwaith i’w datblygu yn parhau yn y cywair hwn. Mae hyn yn golygu cyflawni’r cynllun y cytunwyd arno ar y dechrau, nid dim ond rhan ohono. “Er mwyn dal y datblygwyr yn driw i hyn, mae tîm cynllunio’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno hysbysiad atal dros dro 28 diwrnod i Gonsortiwm Datblygu’r Glannau. Golyga hyn y gallent gael eu herlyn os ydyn nhw’n hwyluso meddiannaeth bellach ar yr eiddo dan sylw yn ystod y cyfnod hwn. “Mae pwyllgor cynllunio’r Cyngor bellach wedi cymeradwyo hysbysiad atal ffurfiol a allai wedyn wahardd meddiannaeth bellach hyd nes y byddwn wedi’n bodloni eu bod yn gweithio i gyflawni eu hymrwymiadau yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd iddynt, a chwblhau’r ganolfan ardal.
Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Nid yw’n dderbyniol i ddatblygwyr ddangos y fath ddiffyg sylw i’w hymrwymiadau. Mae Glannau’r Barri bellach yn gymuned ffyniannus ac rydym am weld y gwaith i’w datblygu yn parhau yn y cywair hwn. Mae hyn yn golygu cyflawni’r cynllun y cytunwyd arno ar y dechrau, nid dim ond rhan ohono.
“Er mwyn dal y datblygwyr yn driw i hyn, mae tîm cynllunio’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno hysbysiad atal dros dro 28 diwrnod i Gonsortiwm Datblygu’r Glannau. Golyga hyn y gallent gael eu herlyn os ydyn nhw’n hwyluso meddiannaeth bellach ar yr eiddo dan sylw yn ystod y cyfnod hwn.
“Mae pwyllgor cynllunio’r Cyngor bellach wedi cymeradwyo hysbysiad atal ffurfiol a allai wedyn wahardd meddiannaeth bellach hyd nes y byddwn wedi’n bodloni eu bod yn gweithio i gyflawni eu hymrwymiadau yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd iddynt, a chwblhau’r ganolfan ardal.
Mae’r Hysbysiadau Tor-amod Gorfodi ac Atal yn rhoi’r grym i’r Cyngor fynnu bod meddiannaeth ar unedau penodol yn cael ei hatal o fewn y datblygiad neu atal adeiladu rhai elfennau ar y datblygiad nes bod y ganolfan ardal, neu elfennau ohoni, yn cael eu cwblhau.
Mae awdurdod wedi ei roi hefyd i ddechrau ar gamau cyfreithiol os na chydymffurfir â’r Hysbysiad Gorfodi.