Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 27 Mis Tachwedd 2018
Bro Morgannwg
I atal eich ffrindiau a’ch teulu rhag dioddef gwenwyn bwyd dros y gwyliau, dilynwch yr awgrymiadau hyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a rennir gan Gyngor Bro Morgannwg i sicrhau mai eich Nadolig yw adeg fwyaf bendigedig y flwyddyn.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod ydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir: “Gall coginio cinio rhost Nadolig ar gyfer grŵp mawr o bobl fod yn heriol, ac mae’n hollbwysig bod y twrci, neu’r cig arall a ddefnyddir ar ei gyfer, yn cael ei storio, ei ddadrewi a’i goginio’n gywir. Yn yr un modd, mae angen aildwymo a bwyta gweddillion o brydau Nadolig o fewn amser penodol er mwyn osgoi gwenwyn bwyd. “Dyna pam mae Cyngor y Fro yn cefnogi’r Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu i leddfu ar ychydig o’r straen ynghlwm wrth baratoi eich cinio Nadolig ac i gadw’ch teulu yn ddiogel yn ystod yn Nadolig.”
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod ydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir:
“Gall coginio cinio rhost Nadolig ar gyfer grŵp mawr o bobl fod yn heriol, ac mae’n hollbwysig bod y twrci, neu’r cig arall a ddefnyddir ar ei gyfer, yn cael ei storio, ei ddadrewi a’i goginio’n gywir. Yn yr un modd, mae angen aildwymo a bwyta gweddillion o brydau Nadolig o fewn amser penodol er mwyn osgoi gwenwyn bwyd.
“Dyna pam mae Cyngor y Fro yn cefnogi’r Asiantaeth Safonau Bwyd i’ch helpu i leddfu ar ychydig o’r straen ynghlwm wrth baratoi eich cinio Nadolig ac i gadw’ch teulu yn ddiogel yn ystod yn Nadolig.”
Meddai Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir mewn Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Adam Hardgrave: “Mae pedair egwyddor hylendid bwyd, sef Oeri, Glanhau, Coginio ac Osgoi Trawsheintio , yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, ond yn benodol adeg y Nadolig. “Yn y bwrlwm o baratoi’r cinio Nadolig, mae’n bwysig cofio cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser. Cofiwch fod twrci maint canolig yn gallu cymryd pedwar diwrnod i dadrewi’n llwyr yn yr oergell, ac mae’n hanfodol coginio twrci’n drwyadl fel bod y cig yn chwilboeth, heb unrhyw gig pinc i’w weld, a bod sudd y cig yn llifo’n glir.”
Meddai Pennaeth Rheoli Clefydau a Gludir mewn Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd,
Adam Hardgrave:
“Mae pedair egwyddor hylendid bwyd, sef Oeri, Glanhau, Coginio ac Osgoi Trawsheintio , yn bwysig trwy gydol y flwyddyn, ond yn benodol adeg y Nadolig.
“Yn y bwrlwm o baratoi’r cinio Nadolig, mae’n bwysig cofio cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser. Cofiwch fod twrci maint canolig yn gallu cymryd pedwar diwrnod i dadrewi’n llwyr yn yr oergell, ac mae’n hanfodol coginio twrci’n drwyadl fel bod y cig yn chwilboeth, heb unrhyw gig pinc i’w weld, a bod sudd y cig yn llifo’n glir.”
Am fwy o wybodaeth, ewch ar lein i'r wefan, neu dilynwch @foodgov #SeasonsEatings ar Drydar am gymorth yn ystod y Nadolig.