Lloches orllewinol Ynys y Barri i’w goleuo fel rhan o gynllun cynnwys celfyddydol cymunedol
Bydd pileri o oleuadau'n disgleirio o Loches Orllewinol Ynys y Barri ar ddydd Gwener 11 Mai fel rhan o gynllun adnewyddu’r Fro.
Arweiniwyd y project gan dîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bro Morgannwg gyda'r artist goleuadau tir cyhoeddus Simon Fenoulhet a’r artist ymgysylltu cymunedol penigamp Tomas Goddard.
Mae’n dilyn llwyddiant gosodiad goleuadau Lloches y Dwyrain a grëwyd gan yr artist rhyngwladol Peter Fink a’r ‘Traversing Wall’ a grëwyd gan yr artist Gordon Young, sy’n adlewyrchu glan y môr ac atgofion dyddiau fu, gan ddenu dringwyr o bob oedran a gallu.
Mae’r Cyngor wedi gwneud gwaith cynnal a chadw i Loches y Gorllewin fel rhan o raglen adfywio Ynys y Barri i drigolion ac ymwelwyr â’r ardal.
Bu’r artistiaid yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion, cerddwyr cŵn, a pherchenogion siop lleol, a’r rhai sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r ynys i drafod a chreu syniadau i ddatblygu gosodiadau goleuo.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Cyngh John Thomas: “Dyma ddigwyddiad cyffrous a fydd yn parhau i ailddatblygu Ynys y Barri a’r Fro.
Mae’n braf clywed bod grwpiau cymunedol ledled y sir wedi chwarae rôl yn y gwaith o osod y golau newydd hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint â phosibl o breswylwyr ac ymwelwyr i’r Fro yn gallu ymuno â ni ar gyfer y dathliad hwn.”
Bydd gorymdaith yn dechrau ymgasglu am 8:30pm-9pm yn wal Ddringo Lloches y Dwyrain, a bydd gorymdaith yn cerdded ar hyd y promenâd i Loches y Gorllewin.
Bydd y rhai a arferai weithio yn Butlins Ynys y Barri'n ymuno â'r orymdaith a bydd y band samba, Samba Galêz, yn diddanu'r dorf, gyda'n ni'n cyfrif lawr i gynnau'r goleuadau am 9.45pm.
I gael rhagor o wybodaeth am y celfyddydau ym Mro Morgannwg ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/enjoy neu cysylltwch â artsinthevaleofglamorgan.gov.uk
