Technegydd yn anelu at gyflawni her padlfyrddio er budd Ysgol y Deri
Mae Technegydd Pad Lansio sy’n gweithio yn Ysgol y Deri ym Mhenarth, yn bwriadu padlfyrddio 145 milltir heb unrhyw gymorth i godi arian i brynu offer awyr agored ar gyfer yr ysgol.
Ar ddydd Gwener 25 Mai bydd Dan, sy'n aelod o Surf Experience, yn cychwyn am 3 o’r gloch y bore o Dyddewi i’r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol yng Nghaerdydd, gan obeithio cwblhau’r siwrnai 8-10 yn ddiweddarach.
Mae Surf Experience, sy’n cynnig gweithgareddau syrffio a padlfyrddio i ddisgyblion, yn un o lawer o brojectau anghoel a gynhelir fel rhan o ymyriadau sydd ar waith gyda disgyblion yn ysgol anghenion arbennig Ysgol y Deri ym Mhenarth.

Dywedodd Dan Willmore, sydd yn gweithio yn y tîm pad lansio yn yr ysgol sydd yn delio gyda nifer fawr o ymyriadau, : “Rydw i’n padlo tua 10-20 milltir o ddydd i ddydd, ond dyma’r tro cyntaf i mi wneud rhywbeth fel hyn.” Rydw i’n dechrau teimlo’n nerfus am yr holl beth ac yn awyddus i fynd ar y dŵr a dechrau padlo.
“Hoffwn feddwl bod hwn yn ffordd wych o ysbrydoli’r plant yr ydw i’n gweithio gyda nhw, gan ein bod ni wedi rhoi tro ar syrffio, padlfyrddio a dringo iddyn nhw o'r blaen ac mae hynny wedi eu helpu i ymlacio. Rydw i’n gobeithio codi £6,000 a gaiff ei ddefnyddio i brynu offer syrffio. Bydd hynny’n arwain at gynnig mwy o gyfleoedd i’r disgyblion. Bydd yr arian sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio arian ar gyfer gweithgareddau a chyfleoedd eraill yn yr awyr agored.”
Yn 2012, trefnodd Dan Her Padlfyrddio Cymru a theithiodd ef a’i gydweithiwr, Kerry Baker, 43 milltir mewn 10 awr a 23 munud o Abertawe i Gaerdydd, gan godi £6,000 ar gyfer yr ysgol.
Mae Ysgol y Deri yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion fynd allan i’r awyr agored a mwynhau profiadau ac anturiaethau gan gynnwys cyflawni Gwobrau Dug Caeredin, dringo, cerdded, sgïo, canŵio, padlfyrddio a syrffio.
Nod digwyddiad Her Padlfyrddio Cymru, â chymorth Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol y Deri a Red Paddle Co, yw codi arian i sicrhau bod yr holl weithgareddau hyn yn fwy cynhwysol a hygyrch i ddisgyblion yr ysgol.
Gwahoddir rhieni, staff a disgyblion i ymuno â Dan ar gam olaf ei her ym Mae Caerdydd.
Ewch i dudalen Just Giving Dan i gael rhagor o wybodaeth neu i gadw trac ar ei daith.
