Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 22 Mis Mai 2018
Bro Morgannwg
Trefnir yr ŵyl gan Valeways ac fe'i cefnogir gan Gyngor Bro Morgannwg a phartneriaid eraill, ac mae'n annog cerddwyr profiadol, cerddwyr hamddenol, teuluoedd a phlant o bobman i gymryd rhan. Yn rhan o'r rhaglen, cynhaliwyd 28 taith gerdded yn y Fro oedd yn amrywio o 2 i 8 milltir, o 15 tan 20 Mai.
Daeth 30 o bobl i Barc Gwledig Porthceri ddydd Mawrth 15 Mai, gan gynnwys Maer Bro Morgannwg, y Cyng. Leighton Rowlands, ar gyfer y daith gerdded gyntaf.
Nod y daith gerdded o gwmpas Parc Gwledig Porthceri oedd edrych ar hanes y parc, a sut mae ap RE Porthceri yn helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw.
Dywedodd y Cyng. Rowlands: “Mwynheais yn fawr gymryd rhan yn nhaith gerdded gyntaf yr ŵyl o gwmpas Porthceri, ac roedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am hanes y parc, gyda help yr ap RE. “Mae Gŵyl Gerdded Bro Morgannwg yn ffordd wych o ddangos i bobl y bywyd gwyllt, y parciau a’r llwybrau sydd gennym ym mhob rhan o’r sir, a gobeithio bod yr wythnos wedi annog mwy o bobl i ddod i’r Fro'r haf hwn.”
Dywedodd y Cyng. Rowlands: “Mwynheais yn fawr gymryd rhan yn nhaith gerdded gyntaf yr ŵyl o gwmpas Porthceri, ac roedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am hanes y parc, gyda help yr ap RE.
“Mae Gŵyl Gerdded Bro Morgannwg yn ffordd wych o ddangos i bobl y bywyd gwyllt, y parciau a’r llwybrau sydd gennym ym mhob rhan o’r sir, a gobeithio bod yr wythnos wedi annog mwy o bobl i ddod i’r Fro'r haf hwn.”
Dywedodd Gwyn Teague, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus: “Roedd y tywydd yn ffantastig ar gyfer yr ŵyl, ar y diwrnod lansio a thrwy gydol y digwyddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych ar gyfer gŵyl eleni yr aeth llawer o bobl iddi. "Rwy’n credu y daeth 30-40 o bobl ar y daith gerdded gyntaf a daeth ychydig yn fwy i Gaban Parc Gwledig Porthceri ar gyfer yr agoriad.”
Dywedodd Gwyn Teague, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus: “Roedd y tywydd yn ffantastig ar gyfer yr ŵyl, ar y diwrnod lansio a thrwy gydol y digwyddiad. Roedd hyn yn newyddion gwych ar gyfer gŵyl eleni yr aeth llawer o bobl iddi.
"Rwy’n credu y daeth 30-40 o bobl ar y daith gerdded gyntaf a daeth ychydig yn fwy i Gaban Parc Gwledig Porthceri ar gyfer yr agoriad.”