Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 30 Mis Mai 2018
Bro Morgannwg
Rural Vale
Barri
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn rhedeg tan 17 Gorffennaf ac yn rhoi'r cyfle i chi ddweud eich dweud ar y dewisiadau a gynigir. Comisiynwyd Arcadis Consulting (UK) Limited gan y Cyngor i ddatblygu a gwerthuso dewisiadau posibl ar gyfer gwella cysylltiadau trafnidiaeth o'r M4 i'r A48 yn 2017.
Mae’r penderfyniad i ymestyn yr ymgynghoriad yn dilyn cyfres o sesiynau galw heibio a gynhaliwyd drwy gydol mis Ebrill a Mai gan y Cyngor a roddodd y cyfle i drigolion weld y cynlluniau ar gyfer y ddau lwybr a gynigir, darllen yr adroddiad drafft a gwneud sylwadau o ran ba lwybr sydd orau ganddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, Aled Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Yn dilyn diddordeb sylweddol yn y gwaith hwn, penderfynwyd ymestyn ymgynghoriad presennol WelTAG tan 17 Gorffennaf 2018. “Y gobaith yw y bydd hyn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gwelliannau posibl ar gyfer yr ardal hon i gyflwyno eu sylwadau a syniadau am unrhyw agwedd ar y gwaith a wnaed gan WelTag hyd yn hyn. Gall hyn gynnwys unrhyw opsiynau newydd, neu farn am wella trafnidiaeth, y gall y Cyngor wedyn eu hystyried. “Mae proses WelTag yn galluogi’r gwaith o gynnwys neu newid cynlluniau trafnidiaeth posibl wrth i’r broses fynd rhagddi ac, wrth i ni ddysgu mwy am broblemau trafnidiaeth, y cyfleoedd a phroblemau posibl sy’n wynebu’r ardal.”
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, Aled Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Yn dilyn diddordeb sylweddol yn y gwaith hwn, penderfynwyd ymestyn ymgynghoriad presennol WelTAG tan 17 Gorffennaf 2018.
“Y gobaith yw y bydd hyn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y gwelliannau posibl ar gyfer yr ardal hon i gyflwyno eu sylwadau a syniadau am unrhyw agwedd ar y gwaith a wnaed gan WelTag hyd yn hyn. Gall hyn gynnwys unrhyw opsiynau newydd, neu farn am wella trafnidiaeth, y gall y Cyngor wedyn eu hystyried.
“Mae proses WelTag yn galluogi’r gwaith o gynnwys neu newid cynlluniau trafnidiaeth posibl wrth i’r broses fynd rhagddi ac, wrth i ni ddysgu mwy am broblemau trafnidiaeth, y cyfleoedd a phroblemau posibl sy’n wynebu’r ardal.”
Byddai'r ddau lwybr a gynigir yn gwella’r cysylltiadau rhwng yr M4 a’r A48, yn lleihau amseroedd teithio i’r maes awyr ac yn helpu i fynd i'r afael â thagfeydd lleol.
Gofynnir i’r cyhoedd, a grwpiau eraill sydd â diddordeb, i wneud sylwadau ar y cynigion cyn i broses WelTAG symud ymlaen i’r cam nesaf sy’n debygol o arwain at gais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru.
Wela y cynigion a dweud eich barn drwy'r arolwg