Mae’r ymateb yn gwneud gwrthwynebiad parhaus y cabinet i uno cynghorau yn glir ac yn ategu ei safbwynt fel awdurdod lleol sy’n perfformio’n dda ac y mae ganddo gysylltiadau democrataidd cryf â’i drigolion, sef y dylai Cyngor Bro Morgannwg barhau fel corff unigol.
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Nid yw’r ddadl dros uno cynghorau wedi ei hennill o bell ffordd. Ymddengys taw sylfaen y papur gwyrdd yw adroddiad diffygiol Comisiwn Williams o 2014 ac unwaith eto, nid yw’n ystyried y gost enfawr a allai godi o uno cynghorau ac nid yw chwaith yn cynnig unrhyw fanylion ar yr arbedion honedig a wneid yn sgil yr uno.

“Dyw mwy ddim yn golygu gwell. Does dim perthynas rhwng maint Cyngor a’i berfformiad a’i effeithlonrwydd. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ei gydnabod fel y cyngor sydd yn perfformio orau yng Nghymru am dair blynedd o’r bron. Ni ddylid peryglu’r llwyddiant amlwg hwn i ateb anghenion preswylwyr y Fro.
“Mae Cyngor y Fro, yn rhinwedd ei aelodau etholedig, yn agos at y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Byddai colli’r cyswllt hwn drwy uno’r Fro ag ardal sydd yn sylweddol wahanol iddi yn gwneud tro gwael â’r preswylwyr.
“Mae’r syniad bod yn rhaid gorfodi cynghorau i uno er mwyn iddynt gydweithio’n well â’i gilydd hefyd yn methu â chydnabod faint o weithio ar y cyd y mae’r cyngor hwn yn enwedig eisoes yn ei wneud, nid gydag awdurdodau lleol cymdogol yn unig, ond hefyd gyda phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
“Ni all ein gwrthwynebiad i’r cynigion diweddaraf hyn fod dim cliriach nag yn yr ymateb drafft y cytunwyd arno heddiw. Bydd cyfle nawr gan holl gynghorwyr y Fro i rannu eu barn yn ffurfiol cyn cyflwyno ymateb terfynol y Cyngor i Lywodraeth Cymru.
“Mae’n fesur o pa mor wael yw’r cynllun diweddaraf i ymyrryd â llywodraeth leol yng Nghymru, ac o ba mor negyddol y byddai’r effaith ar y Fro, ac rwy’n disgwyl i gyfeillion o bob plaid wleidyddol uno ynghyd, fel y gwnaethant eisoes, i'w wrthod yn unfryd."
Gall preswylwyr weld yr ymateb drafft yn llawn ar-lein. Yn dilyn craffu gan Bwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol y Cyngor ar 24 Mai bydd yn cael ei baratoi gan y cabinet ar 4 Mehefin a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.