Cost of Living Support Icon

 

Y gymuned yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â sbwriel yn Ynys y Barri

Bydd casgliadau sbwriel cydlynol, biniau ychwanegol ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth oll yn cael eu treialu yn ardal y Barri yn ystod yr haf hwn mewn ymdrech ar y cyd rhwng y Cyngor, masnachwyr lleol a grwpiau cadwraeth lleol i fynd i'r afael â'r broblem o sbwriel yn y gyrchfan.

 

  • Dydd Llun, 21 Mis Mai 2018

    Bro Morgannwg



Gwneir nifer o newidiadau erbyn y penwythnos gŵyl y banc sydd i ddod, megis cyflwyno arwyddion newydd, biniau olwynion mawr iawn ar y promenâd, a chyhoeddiadau uchelseinydd rheolaidd i atgoffa ymwelwyr ynghylch sut a ble i waredu eu sbwriel.

 

Cllr Thomas hosts a discussion at the summit

Bydd y Cyngor hefyd yn gosod cerbyd sbwriel yno, gan leihau'n fawr yr amser i wagio dros 100 o finiau Ynys y Barri.

 

 

Ac mae yna obeithion y gallai'r penwythnos prysur weld y rhaglen gyntaf o gasglu sbwriel cydlynol gan grwpiau gwirfoddol lleol.

 

 

 

Cafodd y syniadau eu codi a'u cytuno mewn 'uwchgynhadledd sbwriel' a gynhaliwyd gan y Cyngor ar 17 Mai.

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Cafodd yr uwchgynhadledd sbwriel ei chreu fel ffordd newydd o fynd i'r afael â hen broblem i Ynys y Barri, ac mae'r adborth a gawsom ar y noson yn awgrymu ei fod yn llwyddiant ysgubol.

 

"Nid yw hon yn broblem sy'n unigryw i Ynys y Barri ond rwy'n credu mai beth sydd yn unigryw o bosib yw lefel brwdfrydedd y trigolion, cadwraethwyr, masnachwyr a gweision cyhoeddus lleol sydd oll yn barod i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r broblem, a'u hymrwymiad i fynd i'r afael â hyn unwaith ac am byth.

 

"Mae yna welliannau wrth gwrs y gall y Cyngor eu gwneud i'r ffordd yr ydym yn gweithio a rhai meysydd lle gallwn gyfrannu mwy o staff ac efallai ychydig mwy o arian er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau.

 

"Fodd bynnag, yr hyn sy'n hynod o galonogol yw'r cytundeb cyffredinol bod gan bob partner hefyd gyfrifoldebau i gwrdd â hwy. Y rhan bwysicaf o'n gwaith yn y dyfodol fydd addysgu ymwelwyr i'r cyrchfan o'u cyfrifoldebau nhw."

 

Ymunodd preswylwyr, perchnogion busnes, cadwraethwyr a gwirfoddolwyr â chynrychiolwyr y Cyngor mewn cyfres o weithdai yn y digwyddiad a oedd yn edrych ar faterion gwaredu gwastraff y casgliadau sbwriel, addysg, gorfodaeth, newid ymddygiad a galw am syniadau arloesol er mwyn datrys y rhain.

 

 

Mae'r syniadau a gasglwyd yn y sesiwn yn dal i gael eu casglu a'u hadolygu ond unwaith y gwnaed hyn, cyhoeddir rhestr lawn o'r awgrymiadau a chynllun gweithredu o ran sut i roi'r rhain ar waith.  

 

 

A full house at the Barry Island litter summit