Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 25 Mis Mai 2018
Bro Morgannwg
Ddydd Mercher 16 Mai, aeth Megan i arddwest frenhinol a derbyn ei Gwobr Aur gan ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Anne.
Roedd Megan wrth ei bodd hefyd i gyfarfod â’r cogyddion Mary Berry a Paul Hollywood yn y seremoni.
Derbyniodd Megan ei gwobr am ennill Tystysgrif Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd, bu’n gwirfoddoli fel hyfforddwraig gyda chlwb hoci i blant yn y Bont-faen a bu’n chwarae gyda Chlwb Hoci’r Eglwys Newydd. Ar yr un pryd bu’n ehangu ei gwybodaeth a’i phrofiad.
Treuliodd hefyd bum niwrnod yn byw ac yn gweithio ar Gamlas Birmingham, a chwblhaodd her pedwar diwrnod mewn canŵ a chaiac ar Afon Hafren.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Llongyfarchiadau mawr i Megan, am gamp hynod. “Gwasanaeth Ieuenctid y Fro sy’n gweithredu Gwobrau Dug Caeredin ym Mro Morgannwg, mewn partneriaeth gyda Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru. Maen nhw’n falch o gael cefnogi’r Wobr Efydd ac Arian ac maen nhw’n gweithredu Gwobr Aur Agored. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r rhai sy’n rhoi cynnig ar y Gwobrau Aur ac Arian ar eu teithiau yr haf hwn.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Llongyfarchiadau mawr i Megan, am gamp hynod.
“Gwasanaeth Ieuenctid y Fro sy’n gweithredu Gwobrau Dug Caeredin ym Mro Morgannwg, mewn partneriaeth gyda Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru. Maen nhw’n falch o gael cefnogi’r Wobr Efydd ac Arian ac maen nhw’n gweithredu Gwobr Aur Agored. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r rhai sy’n rhoi cynnig ar y Gwobrau Aur ac Arian ar eu teithiau yr haf hwn.
Llwyddodd 26 o ymgeiswyr arian o’r Fro i gwblhau eu taith gerdded ar y Gŵyr yn gynnar ym mis Ebrill, ac maen nhw bellach yn paratoi am eu halldaith olaf yr haf hwn. Bydd 17 o ymgeiswyr am y wobr Aur yn cwblhau eu halldaith yn Nyffryn Gwy rhwng 25 a 29 Mai.