Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 01 Mis Mai 2018
Bro Morgannwg
Gall y Cyngor roi gostyngiad ar y dreth gyngor i rai grwpiau o bobl dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (1992). Cytunodd cabinet yr awdurdod lleol i ymestyn hyn i bobl sy'n gadael gofal mewn cyfarfod ar 30 Ebrill.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yn hytrach na’u rhieni ymhlith y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae gan y Cyngor ddyletswydd nid yn unig i’w cadw nhw’n ddiogel, ac i sicrhau bod eu profiadau mewn gofal yn rhai positif, ond hefyd i sicrhau eu bod nhw’n cael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd a llwyfan gadarn ar gyfer llwyddiant fel oedolion ifanc. “Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu llawer o heriau pan fyddant yn symud i lety annibynnol ac yn dechrau rheoli eu harian eu hunain am y tro cyntaf. Nod y cam yr ydym wedi'i gymryd heddiw yw gwneud y broses bontio’n llawer haws. “Mae ganddo’r potensial i fod ag effaith fuddiol iawn ar eu bywydau ac rwy’n falch iawn o fod wedi gweithredu hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yn hytrach na’u rhieni ymhlith y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae gan y Cyngor ddyletswydd nid yn unig i’w cadw nhw’n ddiogel, ac i sicrhau bod eu profiadau mewn gofal yn rhai positif, ond hefyd i sicrhau eu bod nhw’n cael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd a llwyfan gadarn ar gyfer llwyddiant fel oedolion ifanc.
“Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu llawer o heriau pan fyddant yn symud i lety annibynnol ac yn dechrau rheoli eu harian eu hunain am y tro cyntaf. Nod y cam yr ydym wedi'i gymryd heddiw yw gwneud y broses bontio’n llawer haws.
“Mae ganddo’r potensial i fod ag effaith fuddiol iawn ar eu bywydau ac rwy’n falch iawn o fod wedi gweithredu hyn.”
Gwnaethpwyd y penderfyniad, i gyflwyno’r cymorth newydd hwn i bobl sy’n gadael gofal, ar ôl i’r mater gael ei godi gan y Cynghorydd Vince Bailey mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Rhagfyr 2017.
Dywedodd y Cynghorydd Bailey: “Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau ofnadwy o uchel o ran cael cyflogaeth ac addysg, a byddai eithriad yn y dreth gyngor yn gwaredu rhai o'r heriau ariannol sydd o'u blaenau. “Mae’n ddigon anodd i unrhyw berson ifanc sydd am fyw ar ei ben ei hun am y tro cyntaf, ond i rywun sy’n gadael gofal heb gefnogaeth eu rhieni, gall rheoli arian fod yn her fawr. “Mae hyn ynghlwm wrth roi help llaw i rai o’r pobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – ac rwy’n falch o fod wedi helpu i godi proffil y mater difrifol hwn.”
Dywedodd y Cynghorydd Bailey: “Mae pobl sy’n gadael gofal yn wynebu rhwystrau ofnadwy o uchel o ran cael cyflogaeth ac addysg, a byddai eithriad yn y dreth gyngor yn gwaredu rhai o'r heriau ariannol sydd o'u blaenau.
“Mae’n ddigon anodd i unrhyw berson ifanc sydd am fyw ar ei ben ei hun am y tro cyntaf, ond i rywun sy’n gadael gofal heb gefnogaeth eu rhieni, gall rheoli arian fod yn her fawr.
“Mae hyn ynghlwm wrth roi help llaw i rai o’r pobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas – ac rwy’n falch o fod wedi helpu i godi proffil y mater difrifol hwn.”
Bydd yr eithriad yn berthnasol i bawb sy’n gadael gofal nes byddant yn 25. Bydd yn ddigon ar gyfer pris llawn unrhyw dreth gyngor sy'n daladwy a bydd yn cael ei ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2018.
Disgwylir y bydd pris cyfanswm cyffredinol i'r Cyngor o ran eithrio pobl sy'n gadael gofal oddeutu £10,000 y flwyddyn.