Cost of Living Support Icon

 

Ysgriefennydd y Cabinet ac arweinydd y Cyngor agor Cymuned Ddysgu Llantilltud fawr yn swyddogol

Ymunodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, John Thomas, ag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid, Mark Drakeford, a phwysigion eraill ar gyfer agoriad swyddogol y Gymuned Ddysgu gwerth £24.4 miliwn yn Llanilltud Fawr.

 

  • Dydd Gwener, 23 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

 

 


There are no images in the search content table for folder: 24074

 

 

Mae’r campws cymunedol newydd yn cynnwys yr ysgol gyfun ar ei newydd wedd, ysgolion cynradd Eagleswell a Llanilltud Fawr, sydd wedi cyfuno i ffurfio Ysgol y Ddraig newydd â 420 lle, ac adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gymraeg Dewi Sant.


Mae Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr wedi ei hymestyn a’r prif adeilad wedi ei adnewyddu a chyfleusterau gollwng a pharcio newydd wedi eu creu ar draws y campws.


Mae’r safle’n cynnwys meithrinfa, maes parcio i staff ac ymwelwyr ac ardaloedd chwarae a dysgu y tu allan yn ogystal â chyfleusterau newydd i'r ysgol a'r gymuned ehangach eu defnyddio.


Mae’r rhain yn cynnwys cae 3G bob tywydd a chae hoci, ac mae offer cegin yn adeilad yr ysgol gyfun y mae preswylwyr lleol yn ei ddefnyddio ar gyfer gwersi goginio Eidalaidd, Sbaenaidd a Chymreig gyda’r nos.


Mae’r clybiau pêl-droed a rygbi iau a hŷn lleol yn defnyddio’r cae 3G, ac yn eu plith mae CPD Merched y Barri a thimau o'r Bont-Faen.


Mae bloc Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, sydd newydd ei adeiladu ac sy’n disodli pedwar adeilad hŷn, yn cynnwys ystafelloedd cyfrifiadur, stiwdio ddrama a labordai gwyddoniaeth, ac wedi'i adeiladu i'r un safon uchel â Chymuned Ddysgu benigamp Penarth a gwblhawyd yn 2015.


Dywedodd y Cyng. Thomas:

“Y gwaith adnewyddu hwn yw’r gwaith gwella diweddaraf ar ysgolion y Fro, a dylai ddod â manteision sylweddol nid yn unig ar gyfer y plant sy’n dysgu yma, ond hefyd ar gyfer y gymuned ehangach.


“Bydd cyfleusterau o’r safon uchaf yn gwella'r profiad addysgol ac mae modd i breswylwyr eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.


“Mae dosbarthiadau coginio eisoes yn digwydd yn rhai o’r ystafelloedd dosbarth technoleg bwyd a phan nad yw’r disgyblion yn defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon gwych, gall aelodau’r cyhoedd eu llogi.”


Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant:

“Mae’r gwaith hwn yn rhan o broject Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae ei ail ran yn cynnwys buddsoddiad digynsail, gwerth £140 miliwn, yn ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd, cyfrwng Cymraeg a ffydd y sir a bydd gwaith gwella sy’n torri tir newydd yn digwydd arnynt dros y blynyddoedd nesaf.


“Bydd maint y buddsoddiad yn caniatáu i ni gychwyn amrywiaeth o brojectau a allai effeithio ar addysg ym Mro Morgannwg mewn modd a ddaw â chanlyniadau cadarnhaol eang iawn.”


Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford:

“Dwi’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo buddsoddiad yng nghymuned ddysgu Llanilltud Fawr, trwy roi arian cyfatebol gwerth bron i £9 miliwn trwy ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. Mae hwn yn amgylchedd dysgu ardderchog ar gyfer dysgwyr ac athrawon a dwi wrth fy modd o weld cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cael eu defnyddio gystal.


Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif, gwerth £1.4 biliwn, yw’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a cholegau ers y 1960au; bydd wedi disodli ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau erbyn 2019.


“Bydd y buddsoddiad yn parhau wedi 2019, gyda chyllideb ychwanegol o £2.4 biliwn i sicrhau bod ein hystâd addysgol yn parhau i wella, ac i gefnogi ein ymdrech genedlaethol o ddarparu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol.”