Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 19 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Roedd eu hymweliad yn rhan o broject Hyb Affrica Cymru ‘Gwneud iddo Ddigwydd', a ddatblygwyd gan Tracy Pallant, gweithiwr datblygu, dros sawl blwyddyn.
Cafodd pum coeden ifanc eu plannu yn barc Gwledig Porthceri gan Hellen Nkuraiya o Kenya ac Adi a Bettie o Ethiopia yn ogystal ag aelodau Côr Cymunedol Porthceri a Tracy Pallant, gwaith a hwyluswyd gan geidwad safle, Mel Stewart.
Dewiswyd cyfres o ganeuon i’w chwarae i goffáu’r digwyddiad, gan gynnwys Wangari, teyrnged i Wangari Maathai – yr enillydd gwobr Nobel o Kenya a ddechreuodd yr ymgyrch plannu coed “Llain Las” i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac erydu pridd yn Kenya.
Y caneuon eraill oedd yr emyn Cymraeg, Calon Lân, Sunset Poem, Iqude – Cân o dde Affrica gan fenywod, E Malama, bendith i'r Ddaear o Hawaii, a chân Swahilïaidd enwog a Jambo a arweiniwyd gan Hellen Nkuraiya.
Dywedodd Mel Stewart: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych a symbolaidd i dynnu sylw at gysylltiadau ledled y byd yn ogystal â bod yn arwydd ymarferol i gydnabod y ffaith bod ein hinsawdd yn newid a’n bod yn gallu gwneud newidiadau syml, y mae plannu coed yn enghraifft gwych ohonynt, i geisio leihau hyn.”