Cost of Living Support Icon

 

Dysgodd myfyrwyr y Fro am strategaeth cyfranogi’r Sir yn ystod Cynhadledd Llais y Disgybl

 

Unodd disgyblion o Ysgol Gyfun y Barri, Ysgol Gyfun Bryn Hafren, Stanwell ac Ysgol Gyfun Sant Cyres i rannu eu sylwadau ar greu strategaeth cyfranogi newydd ar gyfer y Fro.

 

  • Dydd Gwener, 23 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



Nod y digwyddiad, a drefnwyd gan David Davies, Pennaeth Cyflawniad yng Nghyngor Bro Morgannwg, oedd cynyddu ymwybyddiaeth o 'Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant i Addysg yng Nghymru’ gan swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

 

Roedd y pum addewid o’r ‘Ffordd Gywir’ yn cynnwys grymuso plant, ymgorffori hawliau i blant, cydraddoldeb, atebolrwydd o ran peidio â gwahaniaethu, a chyfrannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant wrth agor y digwyddiad: "Fel aelodau cyngor yr ysgol, mae pob un ohonoch yn chwarae rôl bwysig iawn wrth wasanaethu ein cymunedau - a hoffwn ddiolch i chi am hynny.  

 

"Rwyf bob amser yn cael fy nghalonogi o weld pobl ifanc yn ddinasyddion gweithredol, yn gweithio i helpu i wneud y Fro yn lle hyd yn oed yn well i ni i gyd fyw ynddo.  Mae’n rhoi hyder i mi ar gyfer y dyfodol; rydych chi’n rhoi hyder i mi ar gyfer ein dyfodol.”

 Pupil conf opening

 

 


Recordiwyd neges ar fideo i’r disgyblion, gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn diolch iddynt am eu cyfraniad, oherwydd crëwyd gweledigaeth y Fro ar sail yr argymhellion a gyflwynodd i gynghorau ac ysgolion ledled Cymru.  

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Leighton Rowlands, Dirprwy Faer Bro Morgannwg, wrth gloi'r digwyddiad: “Bydd ein Strategaeth Cyfranogiad newydd yn fentrus, uchelgeisiol ac yn llawn dyhead.  Fel Hyrwyddwr Ieuenctid yn Fro, rwy’n benderfynol y bydd yn cyflawni’r hyn oll rydym wedi’i addo.  

 

“Rwy’n credu’n gryf yn hawliau i blant am eu bod wrth wraidd sicrhau bod modd i bob plentyn a pherson ifanc gyflawni eu potensial a dylanwadu’n dda ar eu cymuned.  I mi, mae ymgorffori hawliau i blant yn y gwaith rydym yn ei wneud yn hollbwysig.  Hoffwn ddiolch i chi am y cyfraniad gwerthfawr rydych wedi’i wneud yn y bore. Byddwn yn ystyried eich holl sylwadau a syniadau wrth ysgrifennu fersiwn derfynol ein Strategaeth."

 

group pic at pupil conf