Cost of Living Support Icon

 

Mae Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol y Cyngor yn awyddus i glywed eich sylwadau ar ‘Pawennau yn y Fro’

Mae gwerthusiad ar ‘Pawennau yn y Fro’, cynllun peilot sydd yn croesawu cŵn yn Fro Wledig, yn cael eu hymgymryd gan dîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 22 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r project hwn yn cael ei ariannu drwy Raglen Datblygu Wledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.

 

Dywedodd Cyngh Jonathan Bird,  Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Rydyn ni wedi derbyn ymatebion gwych o fusnesau sydd yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun. 

 

 

Paws-in-the-vale-logo

“Mae perchnogion cŵn wedi mwynhau croeso cynnes o fusnesau sydd yn rhan o’r cynllun, ond rydym yn awyddus i glywed o sawl bobl sydd yn byw yn Y Fro.”

 

 

Mae’r arolwg cyntaf yn targedu’r cyhoedd, a gallwch rannu eich sylwadau yma. Mae’r ail arolwg yn targedu busnesau ar draws y Fro, yn cynnwys y rhai sydd yn rhan o’r cynllun yn barod yn ogystal â’r rhai sydd heb gofrestru i’r cynllun.

 

 

Dyddiad cau i gwblhau’r arolwg yw dydd Mawrth 2 Ebrill, ac mi fydd yr adborth yn helpu’r Cyngor gyda’r penderfyniad i barhau i gadw’r Fro yn ardal sy’n croesawu cŵn.