Cost of Living Support Icon

 

Contract Cŵn Strae Newydd

Bydd contract cŵn strae newydd gyda Hope Rescue yn dechrau fis Ebrill. Bydd y contract newydd yn cwmpasu Gorllewin y Fro a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



Dog at side of the road

O hyn ymlaen bydd angen mynd â chŵn strae a ganfyddir ym Mro Morgannwg naill ai i Ganolfan Hope Rescue neu i Gartref Cŵn Caerdydd, yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw neu ble y canfu’r ci. 

 

Casgliadau

Nid yw Hope Rescue yn cynnig casgliadau y tu allan i oriau.  Os dewch o hyd i gi strae, cysylltwch â Cyswllt Un Fro a chael cyfeirnod. Yna bydd Cyswllt Un Fro yn rhoi gwybod i Hope Rescue am bob ci strae a ganfuwyd y tu allan i oriau dros y ffôn a thrwy e-bost.

 

Gwasanaeth Gollwng 24 awr

Mae Hope Rescue yn cynnig gwasanaeth gollwng 24 awr yn eu cyfleuster ar gyfer unrhyw gi strae y deuir o hyd iddo. 

 

Os ydych wedi colli ci, fe’ch cynghorir i gysylltu â’r llety cŵn yn eich ardal i gychwyn, yna’r llety cŵn y tu allan i’ch ardal rhag ofn y daethpwyd o hyd i’ch ci y tu allan i’r ffiniau. Er enghraifft, os ydych yn byw yn y Rhws, cysylltwch â CCC yn gyntaf, yna Hope Rescue os nad ydych yn llwyddiannus. 

 

Gorllewin y Fro:

Bydd angen mynd ag unrhyw gŵn strae a ganfyddir yn yr ardaloedd canlynol i Ganolfan Hope Rescue: 

  • Saint-y-brid
  • Llandŵ / Ewenni
  • Llanilltud Fawr

  • Y Bont-faen

  • Sain Tathan

 

Canolfan Hope Rescue

Cynllan Lodge

Old Llanharry Road

Llanharan

CF72 9NH

 

  • 01443 226659

 

Dwyrain y Fro:

Bydd angen mynd ag unrhyw gŵn strae a ganfyddir yn yr ardaloedd canlynol i Gartref Cŵn Caerdydd (CCC):

  • Penarth
  • Y Barri

  • Y Rhws

  • Llanbedr-y-Fro

  • Gwenfô

  • Llandochau

  • Sully
  • Dinas Powys

 

Cartref Cŵn Caerdydd

Ystâd Ddiwydiannol Westpoint

Heol Penarth

Caerdydd

CF11 8JQ