Gwasanaethau cymdeithasol yn cynnal digwyddiad codi arian llwyddiannus ar gyfer Banc Bwyd y Fro
Mae £500 wedi’i roi i Fanc Bwyd y Fro gan gyflogeion Cyngor Bro Morgannwg.

Daeth staff o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor at ei gilydd i roi anrhegion Nadolig diangen a gafodd eu gwerthu i’r cynigiwr uchaf mewn ocsiwn dawel a gynhaliwyd fis diwethaf yn Swyddfeydd Dociau’r Cyngor.
Ymysg yr anrhegion i’w prynu oedd llyfrau a theganau plant, siocledi, oriawr chwaraeon, nwyddau i’r tŷ bach a sliperi a phâr o docynnau cyngerdd a roddwyd yn hael gan Arena Motorpoint Caerdydd. Rhoddwyd yr arian a godwyd yn yr ocsiwn i’r prosiect “bwyd brys” lleol, sef Banc Bwyd y Fro.
Agorwyd Banc Bwyd y Fro ym mis Medi 2011 gydag un ganolfan yn y Barri, ond ers hynny, mae wedi agor 5 canolfan banc bwyd ar draws y Fro. Mae’r canolfannau hyn yn dosbarthu pecynnau bwyd brys i’r gymuned. Sefydlwyd y project gan eglwysi lleol, ac mae’n gweithio tuag at atal pobl rhag llwgu yn yr ardal leol.
Gan gydnabod a gwerthfawrogi ymroddiad a gwaith caled y gwirfoddolwyr ym Manc Bwyd y Fro, roedd cydweithwyr yn nhimoedd Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r prosiect a mynegi eu diolch drwy gynnal yr ocsiwn dawel.
Roedd y Cyng. Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden eisiau diolch i’r sefydliad elusennol lleol a’r rhai hynny a drefnodd yr ocsiwn:
“Mae gwirfoddolwyr ym Manc Bwyd y Fro yn gweithio’n barhaus drwy gydol y flwyddyn i gefnogi’r rhai hynny mewn argyfwng. Pan fo rhywun ym Mro Morgannwg angen bwyd a nwyddau tŷ bach, mae’r project ar gael i helpu.
“Maen nhw’n gwneud gwaith gwych, ac mae ein cydweithwyr yn y Cyngor wedi cydnabod hyn drwy gynnal ocsiwn dawel. Po fwyaf y gallwn ni, fel cymuned leol, ei wneud i godi mwy o arian i sefydliadau elusennol fel Banc Bwyd y Fro, y mwyaf o bobl y gallwn ni eu helpu i osgoi llwgu ym Mro Morgannwg.
“Mae hyn wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan.”
I gael rhagor o wybodaeth am Fanc Bwyd y Fro, ac i ddysgu mwy am sut y gallwch chi roi, ewch i www.vale.foodbank.org.uk.