Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 14 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Mae’r tîm yn treialu ‘Diwrnodau Gweithgareddau’ sy’n galluogi plant oed ysgol a’u rhieni neu warcheidwaid i roi cynnig ar wahanol weithgareddau gyda’i gilydd.
Mae’r rhain yn cynnwys dosbarthiadau Ffrangeg, crefftau, coginio, dysgu yn yr awyr agored, ymlacio, dawns, sgiliau'r syrcas a hyd yn oed sesiynau ffitrwydd milwrol.
Mae’r project hwn yn cael ei ariannu drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg.
ARCHEBU NAWR
Bydd y peilot yn cael ei gynnal rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn pedair cymuned yn ardaloedd gwledig y Fro: Sain Tathan, Gwenfô, y Rhws ac Ystradowen.
“Roedd yr adborth a gafodd ein tîm Cymunedau Gwledig Creadigol gan drigolion yn pwysleisio bod angen mwy o gyfleoedd ar blant mewn cymunedau gwledig i wneud gweithgareddau. Dyna pam rydym yn treialu'r cynllun newydd hwn. Yn ogystal â’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, gobeithiwn y bydd yn cynnig rhyddhad o bwysau bywyd bob dydd ac yn galluogi teuluoedd i dreulio rhywfaint o amser gwerthfawr yng nghwmni ei gilydd. Gallai hyd yn oed arwain at hobi teuluol hirdymor newydd." - Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio:
“Roedd yr adborth a gafodd ein tîm Cymunedau Gwledig Creadigol gan drigolion yn pwysleisio bod angen mwy o gyfleoedd ar blant mewn cymunedau gwledig i wneud gweithgareddau. Dyna pam rydym yn treialu'r cynllun newydd hwn.
Yn ogystal â’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, gobeithiwn y bydd yn cynnig rhyddhad o bwysau bywyd bob dydd ac yn galluogi teuluoedd i dreulio rhywfaint o amser gwerthfawr yng nghwmni ei gilydd. Gallai hyd yn oed arwain at hobi teuluol hirdymor newydd." - Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: