Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 21 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Barri
Bydd yr unedau ynni solar hyn yn cael eu gosod ym mis Ebrill, ar byst goleuadau stryd lle byddant yn samplo'r aer am ystod o allyriadau yn barhaus. Yna bydd y wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl fesul awr i’r Cyngor dros system ddi-wifr.
Er na ellir cysylltu canlyniadau’r monitro yn uniongyrchol â’r cyfleuster Biomas, fe fyddant yn monitro’r ansawdd aer cyffredinol yn yr ardal o amgylch y cyfleuster a chaiff y data wedyn ei gymharu â safonau ansawdd aer cenedlaethol.
Yn dilyn cyfnod profi byr, er mwyn sicrhau bod yr offer monitro yn gweithio'n effeithiol, bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ansawdd aer ar ei wefan Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gydag esboniadau o’r hyn sy'n benodol yn cael ei fonitro.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: "Rwy’n llwyr ymwybodol o'r teimladau lleol cryf o ran y safle nwyeiddio, a'r pryderon y gall ei weithrediad fod yn achos pryder o ran iechyd. "Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw allyriadau sy'n bryder o ran iechyd y cyhoedd, bydd yr unedau monitro aer hyn yn ein galluogi i gadw golwg agos ar ansawdd yr aer yn y Barri. "Bydd canlyniadau'r monitro wedyn ar gael i'r cyhoedd, a dylai hynny roi sicrwydd i'r rheiny sydd wedi mynegi pryderon ar y mater hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: "Rwy’n llwyr ymwybodol o'r teimladau lleol cryf o ran y safle nwyeiddio, a'r pryderon y gall ei weithrediad fod yn achos pryder o ran iechyd.
"Er nad ydym yn ymwybodol o unrhyw allyriadau sy'n bryder o ran iechyd y cyhoedd, bydd yr unedau monitro aer hyn yn ein galluogi i gadw golwg agos ar ansawdd yr aer yn y Barri.
"Bydd canlyniadau'r monitro wedyn ar gael i'r cyhoedd, a dylai hynny roi sicrwydd i'r rheiny sydd wedi mynegi pryderon ar y mater hwn."