Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 01 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
TLansiwyd yr arolwg ar ôl i ymchwil gyda sefydliadau masnach yn y Fro nodi nad oedd busnesau'n gwybod am fanteision rhwydweithio a ble y gallent fynd i rwydweithio. Mae’n bosibl y bydd rhan o’r project hefyd yn edrych ar arfer gorau yn rhywle arall yn y DU fel y gall pobl ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf arno.
Mae’r arolwg bellach yn fyw a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Ebrill 2018. Caiff pob person sy’n gwneud yr arolwg gyfle i ennill te prynhawn hyfryd i ddau yn Llannerch Vineyards!
Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, “Rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg yn rhoi i’r Cyngor a Chyrff Masnach lleol fewnwelediad i'r hyn y mae busnesau am ei gael allan o rwydweithio, ac yn ysbrydoli ffyrdd newydd o helpu busnesau i gyfathrebu, masnachu a gweithio ynghyd."
Gallwch gwblhau'r arolwg byr trwy fynd i www.creativeruralcommunities.co.uk/survey