Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 01 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo miliwn o bunnoedd o hyn - yn ogystal â'r £300,000 y clustnodwyd ar ei gyfer yn wreiddiol – gyda’r gweddill yn dod o grant unigryw gan Lywodraeth Cymru.
Meddai’r Cyng. Geoff Cox, Aled y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Mae cytuno ar gynigion 2018/19 wedi bod y broses bennu cyllideb fwyaf heriol rwyf erioed wedi’i gweld. Ond nid yw hyn wedi ein rhwystro rhag blaenoriaethu’r meysydd sy'n bwysicaf gan drigolion y Fro. “Mae miloedd o gilometrau o ffyrdd yn y Fro ac mae cynnal a chadw’r rhain at safon uchel yn waith sylweddol. Yn ffodus, mae gennym weithlu medrus ac ymrwymedig, a chyda'r cyllid ychwanegol hwn bydd ganddynt nawr yr arian y mae ei angen i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gyfer y Fro. “Rhaid hefyd canmol Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru am fynnu sylw Llywodraeth Cymru i’r angen am fuddsoddiad mwy yn ein rhwydwaith o briffyrdd.”
Meddai’r Cyng. Geoff Cox, Aled y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Mae cytuno ar gynigion 2018/19 wedi bod y broses bennu cyllideb fwyaf heriol rwyf erioed wedi’i gweld. Ond nid yw hyn wedi ein rhwystro rhag blaenoriaethu’r meysydd sy'n bwysicaf gan drigolion y Fro.
“Mae miloedd o gilometrau o ffyrdd yn y Fro ac mae cynnal a chadw’r rhain at safon uchel yn waith sylweddol. Yn ffodus, mae gennym weithlu medrus ac ymrwymedig, a chyda'r cyllid ychwanegol hwn bydd ganddynt nawr yr arian y mae ei angen i'w cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gyfer y Fro.
“Rhaid hefyd canmol Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru am fynnu sylw Llywodraeth Cymru i’r angen am fuddsoddiad mwy yn ein rhwydwaith o briffyrdd.”
Caiff yr arian ychwanegol ei wario ar gynnal a chadw a diweddaru ffyrdd ledled y Fro. Fel y mae hi gyda gwario cyfredol, bydd tîm priffyrdd y Cyngor yn asesu’r ffyrdd y mae angen eu hatgyweirio fwyaf i sicrhau mai’r ardaloedd y mae angen buddsoddiad ychwanegol arnynt fwyaf fydd y rhai cyntaf i fanteisio.