Arweinydd y Cyngor yn canmol staff am eu hymateb i'r tywydd garw
Mae'r Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, wedi canmol staff y Cyngor am eu hymdrechion i gadw’r Sir ar waith yn ystod y tywydd oer diweddar.
Roedd tymereddau dan sero, eira trwm a gwyntoedd cryf a achosodd luwchfeydd eira wedi creu llawer o anawsterau i'r Fro a llawer o'r wlad yn hwyr yr wythnos ddiwethaf a thros y penwythnos.
Cafodd Sain Tathan fwy o eira dros nos Iau nag unman arall yn y DU, gyda 55cm anhygoel yn disgyn mewn ond ychydig o oriau, a bu llwybrau trafnidiaeth yn beryglus neu hyd yn oed heb fodd mynd ar hyd-ddynt oherwydd yr amodau rhewllyd.

Ond aeth Tîm Cynllunio Brys y Cyngor ati pan ragwelwyd eira, gan gydlynu ymateb yr awdurdod, tra bod timau unigol o fewn y sefydliad yn gweithio i gael y Fro yn ôl ar waith.
Danfonwyd erydr eira i glirio llawer o'r ffyrdd mawr a danfonwyd fflyd o gerbydau 4x4 i helpu i sicrhau bod personél allweddol yn cyrraedd eu cyrchfannau, gan gynnwys gofalwyr sy'n gofalu am yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed.
Yn ogystal i hyn, roedd yr adran gyfathrebu'n hysbysu'r cyhoedd o'r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y rhwydwaith priffyrdd lleol ac unrhyw broblemau y gallent ddod ar eu traws..
Dywedodd y Cyng. Thomas: "Fel llawer o'r DU, bu'n rhaid i ni ddelio â thywydd arbennig o anodd dros y dyddiau diwethaf. Roedd y tymereddau rhewllyd a'r lluwchfeydd eira wedi gwneud teithio o gwmpas y sir yn beryglus, ond rwy'n hynod falch o'r ymateb a wnaeth ein staff gweithgar er mwyn gallu ymdopi â'r sefyllfa.
"Aeth llawer ohonynt y tu hwnt i'r disgwyl, gan weithio trwy'r penwythnos i osgoi tarfu ar breswylwyr y Fro cymaint â phosib.
"Rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi derbyn nifer mawr o negeseuon cefnogol oddi wrth aelodau'r cyhoedd yn dilyn yr ymdrechion hynny, a hoffwn ychwanegu fy llais at y rheiny sy'n mynegi eu diolchgarwch. Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad a ddangoswyd a dylai pawb dan sylw ddal eu pennau'n uchel am y ffordd yr oeddem ni fel Cyngor wedi gallu delio ag amodau heriol iawn."

Cytunodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, gan ddweud: "Rwy’n eithriadol o ddiolchgar i’n gweithwyr a weithiodd yn ddygn ddydd Gwener a gydol y penwythnos i gadw ein gwasanaethau brys i fynd a diogelu ein trigolion rhag peryglon y tywydd garw digynsail.
Gweithient yn galed i gydlynu’r ymateb brys, ymateb i alwadau bryd a pharhau i gynnig gwasanaethau rheng flaen hollbwysig. Roedd y tywydd yn heriol tu hwnt ac rwy’n gwbl ymwybodol o faint o waith caled oedd ymateb i’r sefyllfa. Mae’r ymroddiad a’r ymrwymiad hwn yn dangos gystal sefydliad ag ydym."
Ymhlith y mesurau a gymerwyd i gyfyngu ar effaith y tywydd roedd y penderfyniad i gau pob ysgol yn y sir nos Fercher cyn i'r eira ddechrau disgyn.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: "Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i ysgolion yn y Fro am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod tywydd gwael diweddar.
"Roedd ymateb cyflym gan swyddogion y Cyngor a chyfathrebu clir â staff ysgolion yn sicrhau y bu modd i ni ymateb gyda’n gilydd yn effeithiol i'r sefyllfa. Roedd y bartneriaeth hon yn golygu y rhoddwyd mesurau ar waith i ymdopi â'r amodau hyn a sicrhau nad oedd disgyblion na staff yn cael eu rhoi mewn unrhyw berygl diangen."