Cost of Living Support Icon

 

Grwpiau Cymunedol yn y Fro i elwa ar £250k o arian Cymunedau Cryf

 

Bydd cymunedau, mentrau cymdeithasol a grwpiau ar draws Bro Morgannwg yn elwa ar fwy na £319,000 o arian trwy gronfa newydd flaengar gan Gyngor Bro Morgannwg. Diben y gronfa yw helpu i greu incwm a phrojectau cynaliadwy.

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Mawrth 2018

    Bro Morgannwg



 

Bydd hyd at £672,000 ar gael dros tair blynedd trwy’r Gronfa Grantiau Cymunedau Cryf, ohono’n cael ei ddarparu gan y Cyngor. 

 

Mae panel gwerthuso’r gronfa’n cynnwys Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, a phartneriaid allanol megis Waterloo, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a chynghorau tref a chymuned. Cyfarfu am yr eildro’r mis hwn ac mae 23 o brojectau wedi cael eu cefnogi hyd yma.  

 

Strong Communities Fund Logo

 

 Ymhlith y projectau i dderbyn arian mae Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen am ei phrosiect i adfer gerddi’r Hen Neuadd. Bydd y grŵp Gibby Green Fingers yn cael cymorth i greu gardd synhwyraidd, sefydlu canolfan addysg a thalu am offer synhwyraidd a symudedd.

 

Bydd grwpiau yn Sili a’r Rhws yn derbyn arian i brynu cyfarpar sinema. Mae clwb cinio yn Sain Tathan hefyd wedi cael cymorth.

 

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn cydnabod y rôl hanfodol hon sy’n cael ei chyflawni gan sefydliadau a arweinir gan y gymuned, mentrau cymdeithasol a chynghorau tref a chymuned ym Mro Morgannwg. Rydym yn gwybod y bydd rhaid i ni weithio law yn llaw er mwyn cyflawni ein huchelgais o greu cymunedau cryfach â dyfodol disgleiriach. Sefydlwyd y Gronfa Grantiau Cymunedau Cryf i’n galluogi i wneud hynny. 

 

 “Mae safon y cynlluniau yn y ceisiadau cynnar yn destament i’r grwpiau eu hunain a’r cymorth maent wedi’i dderbyn gan Dîm Datblygu Economaidd y Cyngor. Mae llwyddiant y gwaith partneriaeth hwn yn argoeli’n dda iawn i’r dyfodol.”


 

 

 

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i £162,000 o gyllid blynyddol am dair blynedd o 2017/18. Mae’n bosib hefyd i’r Gronfa Grantiau Cymunedau Cryf gael hyd i arian Adran 106, os bydd hynny’n briodol.

 

 

Diben y Gronfa Cymunedau Cryf yw galluogi grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a chynghorau tref a chymuned i wneud cais am arian ar gyfer mentrau sy’n lleihau eu dibyniaeth ar arian grant ac yn adlunio agenda’r Cyngor o ran gwasanaethau. Gall grwpiau wneud cais am arian cyfalaf a refeniw.

 

 

Y dyddiad cau i wneud ceisiadau ar gyfer y rownd nesaf o gyllid yw 3 Awst. Ceir mwy o wybodaeth yn http://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/working/Business-Support/Strong-Communities-Grant.aspx