Cymunedau yn Gyntaf Barri yn cynnal un dathliad olaf i dalu clod i flynyddoedd o lwyddiant a dweud diolch a hwyl fawr
Ymunodd pobl o bob rhan o'r Fro â thîm Cymunedau yn Gyntaf Y Barri am un digwyddiad olaf i ddathlu eu llwyddiant dros y blynyddoedd.
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen wrthdlodi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad Bro Morgannwg. Cynhelir eu digwyddiad olaf ar Ddydd Gwener y Groglith, Ebrill 1, gan fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi'r gorau i gyllido’r rhaglen ym mis Chwefror y llynedd.
Bydd y tîm yn cael ei ailenwi fel Cymunedau ar gyfer Gwaith.
Bu i aelodau'r gymuned a elwodd o brosiectau a rhaglenni, a sefydliadau partner, gwrdd yn Ystafelloedd Mount yn y Barri, i ddweud diolch wrth y tîm.
Agorwyd y digwyddiad gan Ashish Poddar, sefydlwr 'FreshTies', menter gymdeithasol a mudiad dielw, sydd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chymunedau yn Gyntaf am flynyddoedd, ddydd Iau 22 Mawrth.
Dywedodd Mr Poddar: "Weithiau, ar bawb angen rhywun i’n deall, i ddal ein llaw ac i’n cymeradwyo. Mae'r storïau sydd wedi eu rhannu yma heddiw yn dangos bod bod yn gyfaill yn hollol naturiol, fel y mae bod eisiau ffrind."

Trafododd aelodau'r tîm eu gwaith prosiect ar ystod o bynciau i helpu gwella bywydau pobl, gan gynnwys byw'n iach, a oedd yn cynnwys colli pwysau a bwyta'n iach a gweithdai a chyrsiau ar gyflogaeth, TG a chymorth hyfforddiant.
Hefyd, cynhaliodd y tîm nifer o sesiynau cymorth megis dau glwb gwaith wythnosol, pedair sesiwn alw heibio ddigidol, Cyfarfodydd Cynghori yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, a grwpiau Cymorth Trosglwyddo Ysgol.
Dywedodd Colin Davies - Rheolwr Clwstwr: "Heddiw, rydyn ni yma i ddathlu ein cyflawniadau. Rydyn ni wedi gweithio gyda miloedd o bobl dros y blynyddoedd.
"Ein newyddion diweddaraf yw bod Barry Kicks, prosiect pêl-droed sy’n ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, derbyn 200 o bobl ifanc, ac fe wnaeth Adele Twomey, ein Hyfforddwr Lles Cymunedol, eu helpu gyda grantiau; maen nhw bellach wedi codi £4,000 a byddan nhw’n parhau am ddwy flynedd arall."
Roedd y noson yn cynnwys clipiau fideo byr o bobl a oedd wedi newid eu bywydau diolch i gymorth y tîm Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys yr hyfforddwr ffitrwydd sydd newydd gymhwyso, Mark Rees o'r Barri.
Cysylltodd Mark â Chymunedau yn Gyntaf, a chyda'u cefnogaeth, cwblhaodd gwrs Iechyd a Lles yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, colli chwe stôn a rhedeg dwy hanner marathon yng Nghaerdydd.
