Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 20 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Barri
Cafwyd Leighton Beavan o Flemingston Road, Sain Tathan, y Barri yn euog o droseddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn Llys Ynadon Caerdydd.
Cafodd ddirwy o £400 a’i orchymyn i dalu £458 mewn costau a thâl dioddefwr o £30.
Roedd Mr Beavan ymhlith nifer o landlordiaid De Cymru a gafodd cyfanswm dirwy o £3,720 am osgoi cydymffurfiaeth â Rhentu Doeth Cymru, sef cynllun Llywodraeth Cymru sy’n gwella’r sector rhent preifat yng Nghymru.
Mae hi’n ofynnol i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru gofrestru eu hunain a’i eiddo, ac mae’n rhaid i landlordiaid ac asiantau sy’n rheoli eu hunain basio hyfforddiant a dod yn drwyddedig.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio’n agos gyda Rhentu Doeth Cymru i nodi landlordiaid sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith.
Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n wych gweld Cymru’n arwain y ffordd wrth sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau. "Mae llawer o landlordiaid ar draws Bro Morgannwg eisoes wedi cofrestru eu heiddo gyda'r cynllun hwn, ond mae yna rai eraill sydd o hyd angen cofrestru a dylai'r achos hwn fod yn rhybudd go iawn iddynt o'r cosbau sy'n gysylltiedig â pheidio â gwneud hynny. Byddwn yn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eu bod bellach yn torri’r gyfraith a byddwn yn eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar unwaith er mwyn osgoi cael eu herlyn.”
Dywedodd y Cyng. Hunter Jarvie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Daeth Rhentu Doeth Cymru i rym ym mis Tachwedd 2015 ac mae’n wych gweld Cymru’n arwain y ffordd wrth sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau.
"Mae llawer o landlordiaid ar draws Bro Morgannwg eisoes wedi cofrestru eu heiddo gyda'r cynllun hwn, ond mae yna rai eraill sydd o hyd angen cofrestru a dylai'r achos hwn fod yn rhybudd go iawn iddynt o'r cosbau sy'n gysylltiedig â pheidio â gwneud hynny.
Byddwn yn atgoffa unrhyw un sydd heb gofrestru eu bod bellach yn torri’r gyfraith a byddwn yn eu hannog i gysylltu â Rhentu Doeth Cymru ar unwaith er mwyn osgoi cael eu herlyn.”