Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 13 Mis Mawrth 2018
Bro Morgannwg
Barri
Mae hefyd yn dweud bod yr ysgol yn pwysleisio’n gryf iawn ar ddatblygu addysg bersonol a chymdeithasol ei disgyblion.
Dyfarnwyd yr ysgol yn Dda yn ei Harweinyddiaeth a Rheolaeth, Addysgu a phrofiadau dysgu a Safonau. Dyfarnwyd bod lles yn yr ysgol a’i hagweddau tuag at ddysgu a gofal, cymorth a chanllaw yn ardderchog.
Dywedwyd bod arweinwyr yr ysgol yn rhoi arweinyddiaeth gref ac effeithiol a dywedodd yr athrawon a’r arolygwyr fod yr aelodau staff cynorthwyol yn dra brwdfrydig ac yn angerddol dros wella dysg y disgyblion.
Dywedodd yr adroddiad fod rhan fwyaf y disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn cyfrannu’n effeithiol mewn gwersi ac yn aml yn cynnig atebion estynedig i gwestiynau ac yn cyfrannu’n berthnasol i drafodaethau yn y dosbarth.
Pan fo disgyblion ym mlwyddyn 6, mae’r rhan fwyaf yn siarad yn groyw ac yn cynnig barn sy’n herio syniadau, er enghraifft wrth drafod stereoteipio rhywedd.
Roedd yr argymhellion ar gyfer yr ysgol yn cynnwys gwella safonau iaith lafar y plant yn Gymraeg y tu allan i’r wers Gymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a gwella profiad disgyblion yn ystod amser egwyl ac amser cinio er mwyn iddynt gael rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio eu hamser yn fy pwrpasol y tu allan.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’r adroddiad yn amlygu cymaint y mae Ysgol Gynradd yr Hollsaint yn gwella ac yn gweithio’n galed i ddatblygu addysg bersonol a chymdeithasol y disgyblion. “Mae’n wych darllen bod safon yr ymddygiad a hunanddisgyblaeth bron i bob disgybl yn y gwersi trwy’r ysgol yn uchel a’u bod yn dangos parch mawr at ei gilydd ac at oedolion yn ifanc. Da iawn wir i’r holl athrawon, staff a phawb yn Ysgol Gynradd yr Hollsaint.”
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’r adroddiad yn amlygu cymaint y mae Ysgol Gynradd yr Hollsaint yn gwella ac yn gweithio’n galed i ddatblygu addysg bersonol a chymdeithasol y disgyblion.
“Mae’n wych darllen bod safon yr ymddygiad a hunanddisgyblaeth bron i bob disgybl yn y gwersi trwy’r ysgol yn uchel a’u bod yn dangos parch mawr at ei gilydd ac at oedolion yn ifanc. Da iawn wir i’r holl athrawon, staff a phawb yn Ysgol Gynradd yr Hollsaint.”