Disgyblion y Fro’n cael eu coroni’n Bencampwyr Bookslam 2018
Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Bro Morgannwg, eu coroni’n Bencampwyr 2018 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru.
Yn y rownd derfynol genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Ysgol Gynradd Sant Baruc oedd yr unig ysgol Gymraeg, yn cystadlu yn erbyn 14 o siroedd eraill.
Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn seiliedig ar eu dewis o lyfrau.
Ar ôl diwrnod o gystadlu brwd, Ysgol Gymraeg Sant Baruc, Bro Morgannwg, a ddyfarnwyd yn bencampwyr BookSlam, ar ôl iddynt greu argraff arbennig ar feirniad y trafodaethau gyda’u gwybodaeth am y nofel The Shiver Stone, gan Sharon Tregenza. Yn rownd y cyflwyniadau, fe wnaethant blesio’r beirniad gyda’u dehongliad o The Black Chair gan Phil Carradice.
Bydd yr ysgol yn dychwelyd i Aberystwyth yn ddiweddarach yn y mis i gystadlu yn Ffeinal Genedlaethol Cwis Llyfrau Cymru.
Mae’r fuddugoliaeth ddiweddaraf hon yn dilyn campau’r disgyblion yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Mai, gyda’r ysgol yn dod yn gyntaf yn y gystadleuaeth unawd gitâr, a band roc yr ysgol yn dod yn ail.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol St Baruc am ennill BookSlam 2018 – am gamp! A nhw oedd yr unig ysgol Gymraeg yn y ffeinal hefyd.
“Dyw hi ddim yn rhwydd sefyll lan, trafod a pharatoi cyflwyniad dramatig, ond talodd waith caled y disgyblion ar ei ganfed, ac rwy’n dymuno pob hwyl iddynt yn y rownd derfynol."
Yn ystod y dydd, cafodd yr holl blant a’r athrawon gyfle hefyd i fwynhau cyflwyniad hwyliog yng nghwmni’r awdur Dan Anthony.
Eleni, Meinir Wyn Edwards oedd yn beirniadu’r trafodaethau ac Eloise Williams oedd yn beirniadu’r cyflwyniadau.
Diolch i gefnogaeth hael nifer o gyhoeddwyr – Gomer, Carreg Gwalch, y Lolfa, Firefly a Rily, gwahoddwyd pob plentyn a gymerodd ran yn y cystadlaethau i ddewis llyfr yn rhad ac am ddim i gofio am yr achlysur.
