Y Fro’n Dathlu Wythnos Gofalwyr 2018
Nododd Bro Morgannwg Wythnos Gofalwyr 2018 trwy gynnal digwyddiadau, gweithgareddau, meddygfeydd a stondinau gwybodaeth ar draws y sir.
Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu a chydnabod eu cyfraniad at deuluoedd a chymunedau.
Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn rhan o Broject Llên Pawb sy’n cael ei gynnal gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn annog ysgrifennu ysbrydoledig a phrojectau llenyddol yn eu hawdurdodau.
Mae Cyngor Tref y Barri wedi ariannu project Stori Ddigidol Deall Dementia ar gyfer y llyfrgelloedd drwy Broject Llên Pawb.
Dyma’r deilliannau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cyfranogwyr y rhaglen:
1. Gwella llythrennedd, cyfathrebu a sgiliau digidol
2. Lleihau allgáu cymdeithasol
3. Rhoi cyfle i ddatblygu’n bersonol ac yn gymdeithasol
Cafodd y project ei gynnal yn Nhŷ Rondel wythnos ac yn rhan ohono cafodd storïau/barddoniaeth digidol eu hysbrydoli gan lun neu wrthrych i gasglu atgofion.
Yn rhan o Wythnos Gofalwyr 2018, gofynnodd yr Awdur, Mike Church, a’r crëwr storïau digidol, Natasha James, i ddefnyddwyr gwasanaeth yn Nhŷ Rondel i ddwyn i gof eu hatgofion mwyaf melys gan gynnwys cael eu magu yn y Fro a'r ffordd y roedden nhw'n cofio'r sir i lunio straeon a barddoniaeth cofiadwy i'w rhannu ar-lein.

Bu Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Leighton Rowlands, yn ymweld â Thŷ Rondel wrth iddynt gynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn ystod yr wythnos.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Leighton Rowlands: “Mae wedi bod yn wych gweld bod llyfrgelloedd, canolfannau meddygol, canolfannau dydd a siopau ledled y Fro, wedi cynnig cefnogaeth a gwybodaeth yn ystod Wythnos Gofalwyr, ac wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch flynyddol hon.
“Mae Tŷ Rondel yn wasanaeth dydd cefnogol gwerthfawr, ac mae creu straeon digidol yn ffordd wych o ddwyn atgofion melys i gof ac yn ffordd ardderchog o nodi Wythnos Gofalwyr."
Mae’r awdur, Mike Church, eisoes wedi cynnal dau weithdy a bydd yn cynnal dwy stori ddigidol arall yng nghwmni Natasha James, ddydd Llun 18 Mehefin a dydd Llun 25 Mehefin.