Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 11 Mis Mehefin 2018
Bro Morgannwg
Yn ystod yr ymarfer, a gynhaliwyd ym mis Mai, roedd y timau'n defnyddio mwg synthetig i weithredu fel tân mawr ffug yn ardal gymunedol yr adeilad. Golyga hyn eu bod yn gallu gwneud prawf realistig o'u cynlluniau ymateb.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet dros Dai: "Prif flaenoriaeth tîm tai'r Cyngor yw diogelwch ein tenantiaid. "Mae diogelwch tân yn rhywbeth yr ydym yn cymryd o ddifrif ac rydym yn cydweithio'n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn sicrhau os bydd yna ddigwyddiad, y byddwn mor barod ag y gallwn fod. "Roedd hwn yn ymarfer llwyddiannus i'r Cyngor a'r gwasanaeth tân, ond hefyd i drigolion Tŷ Awbery, a gobeithiwn y byddant yn cael sicrwydd bod y cynlluniau sydd ar waith wedi'u profi dan amodau eithriadol o realistig. "Rydym yn gobeithio cynnal ymarferion tebyg ar gyfer blociau o fflatiau tebyg yn y dyfodol."
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet dros Dai: "Prif flaenoriaeth tîm tai'r Cyngor yw diogelwch ein tenantiaid.
"Mae diogelwch tân yn rhywbeth yr ydym yn cymryd o ddifrif ac rydym yn cydweithio'n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn sicrhau os bydd yna ddigwyddiad, y byddwn mor barod ag y gallwn fod.
"Roedd hwn yn ymarfer llwyddiannus i'r Cyngor a'r gwasanaeth tân, ond hefyd i drigolion Tŷ Awbery, a gobeithiwn y byddant yn cael sicrwydd bod y cynlluniau sydd ar waith wedi'u profi dan amodau eithriadol o realistig.
"Rydym yn gobeithio cynnal ymarferion tebyg ar gyfer blociau o fflatiau tebyg yn y dyfodol."
Mae rhaglen adnewyddu 18 mis o £2.3 miliwn ar y gweill ar hyn o bryd yn Nhŷ Awbery, a fydd yn trawsnewid y fflatiau'n fewnol ac edrychiad allanol yr adeilad cyfan.
Mae gan y Cyngor asesiadau risg tân diweddar ar gyfer pob fflat sydd â mynediad cymunedol ac mae'n cynnal arolygiadau misol i bob bloc.