Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 05 Mis Mehefin 2018
Bro Morgannwg
Barri
Bydd gŵyl drafnidiaeth flynyddol Ynys y Barri eleni yn arddangos hen fysus ym maes parcio Nells Point, ceir clasurol ac arbenigol ar hyd y promenâd a’r gerddi, a beiciau modur hanesyddol dan y lloches ddwyreiniol.
Bydd Grŵp Sinclair yn arddangos sampl o’u modelau cyfredol gydag Audi, Mercedes-Benz, Seat, Skoda, Smart a Volkswagen yng ngerddi’r promenâd yng nghanol yr ŵyl.
Bydd teithiau bws treftadaeth dwy ffordd am ddim yn rhedeg gydol y dydd rhwng Ynys y Barri a'r Depo ar Broad Street.
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r Cyngor wastad wedi ceisio gweithio gyda chymdeithasau lleol megis Grŵp Cadw Trafnidiaeth Caerdydd i gynnal ystod eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn mewn cyrchfannau fel Ynys y Barri. “Eleni rydym yn ceisio cynnwys busnesau lleol hefyd ac mae’n bleser gennym gyhoeddi Grŵp Sinclair fel y cyntaf i ddod ymlaen i gefnogi digwyddiad. “Mae eu cefnogaeth ariannol wedi helpu i wneud Gŵyl Drafnidiaeth eleni yn bosibl a bydd y cerbydau a’r stondin a gyflwynir ganddynt yn gwneud y digwyddiad yn well i bawb sy’n mynychu.”
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r Cyngor wastad wedi ceisio gweithio gyda chymdeithasau lleol megis Grŵp Cadw Trafnidiaeth Caerdydd i gynnal ystod eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn mewn cyrchfannau fel Ynys y Barri.
“Eleni rydym yn ceisio cynnwys busnesau lleol hefyd ac mae’n bleser gennym gyhoeddi Grŵp Sinclair fel y cyntaf i ddod ymlaen i gefnogi digwyddiad.
“Mae eu cefnogaeth ariannol wedi helpu i wneud Gŵyl Drafnidiaeth eleni yn bosibl a bydd y cerbydau a’r stondin a gyflwynir ganddynt yn gwneud y digwyddiad yn well i bawb sy’n mynychu.”
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau'r haf yn Ynys y Barri a lleoliadau eraill ym Mro Morgannwg yn www.visitthevale.com.