Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 01 Mis Mehefin 2018
Bro Morgannwg
Rural Vale
Mae Fforwm Sant Hilari wedi derbyn cymorth i lansio cylchlythyr cymunedol newydd i adrodd ar yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned.
Dywedodd Caroline Neudegg, o Fforwm Sant Hilari: “Y cylchlythyr misol wedi bod yn ffordd wych o roi gwybod i’r gymuned am yr hyn sy’n digwydd ac o hyrwyddo digwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd. "Mae’r broses ddosbarthu hyd yn oed, wedi arwain at sgwrsio rhwng trigolion, sgyrsiau na fyddai wedi digwydd fel arall. Dywedodd un o drigolion newydd yr ardal ei bod wir yn gwerthfawrogi cael gweld yr hyn sy’n digwydd drwy gyfrwng y cylchlythyr.”
Dywedodd Caroline Neudegg, o Fforwm Sant Hilari: “Y cylchlythyr misol wedi bod yn ffordd wych o roi gwybod i’r gymuned am yr hyn sy’n digwydd ac o hyrwyddo digwyddiadau sy’n dod â phobl ynghyd.
"Mae’r broses ddosbarthu hyd yn oed, wedi arwain at sgwrsio rhwng trigolion, sgyrsiau na fyddai wedi digwydd fel arall. Dywedodd un o drigolion newydd yr ardal ei bod wir yn gwerthfawrogi cael gweld yr hyn sy’n digwydd drwy gyfrwng y cylchlythyr.”
Mae’r SAINT – grŵp Parciau Sain Tathan – newydd sefydlu tîm pêl-droed newydd i blant y pentref, i’w hybu i fod yn actif a denu pob plentyn at chwaraeon. Maen nhw wedi derbyn cymorth i gynnal Gŵyl Iechyd a Llesiant dros yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio a Chynllunio: "Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld mentrau newydd yn cael eu datblygu yn y Fro Wledig i ddod â phobl at ei gilydd a rhoi cyfle iddynt gwrdd â phobl eraill, chwarae mwy o ran ym mywyd eu cymunedau a mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol."
Mae’r project hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, gan Lywodraeth Cymru a chan Gyngor Bro Morgannwg.
Os hoffech ddysgu rhagor am y ffordd y gall CGC eich helpu i beilota dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau cymunedol neu helpu eich grŵp i fod yn fwy cynaliadwy, cysylltwch â’r tîm drwy ffonio 01446 704226 neu e-bostio create@valeofglamorgan.gov.uk.